bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Galatians 6
Galatians 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
1
Frodyr a chwiorydd, os ydy rhywun yn cael ei ddal yn pechu, dylech chi sy'n cael eich arwain gan yr Ysbryd fod yn garedig ato, a'i helpu i droi'n ôl — ond gwyliwch rhag i chithau gael eich temtio i wneud yr un peth.
2
Helpwch eich gilydd pan mae pethau'n galed — dyna mae ‛cyfraith‛ y Meseia yn ei ofyn.
3
Os dych chi'n meddwl eich bod chi'n rhywun, dych chi'n twyllo'ch hunain — dych chi'n neb mewn gwirionedd.
4
Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi ei wneud heb orfod cymharu'ch hunain â phobl eraill o hyd.
5
Dŷn ni'n gyfrifol am beth dŷn ni'n hunain wedi ei wneud.
6
Dylai'r rhai sy'n cael eu dysgu am neges Duw dalu i'w hathro drwy rannu beth sydd ganddyn nhw gydag e.
7
Peidiwch twyllo'ch hunain: Allwch chi ddim chwarae gemau gyda Duw. Mae pobl yn medi beth maen nhw'n ei hau.
8
Bydd y rhai sy'n byw i foddhau eu chwantau pechadurus yn medi canlyniadau hynny, sef dinistr; ond bydd y rhai sy'n byw i blesio'r Ysbryd yn medi bywyd tragwyddol o'r Ysbryd.
9
Felly dylen ni byth flino gwneud daioni. Os gwnawn ni ddal ati daw'r amser pan fyddwn ni'n medi cynhaeaf o fendith.
10
Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb, ac yn arbennig i'r teulu o gredinwyr.
11
Edrychwch mor fawr ydy fy llawysgrifen i!
12
Mae'r rhai sy'n ceisio eich gorfodi chi i gael eich enwaedu yn gwneud sioe o beth sydd wedi ei wneud i'r corff. A pham? Am eu bod nhw eisiau osgoi cael eu herlid am ddweud mai dim ond croes y Meseia sy'n achub.
13
Ond dydy'r rhai sydd wedi eu henwaedu ddim yn gwneud popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ddweud beth bynnag! Y rheswm pam maen nhw eisiau i chi fynd trwy'r ddefod o gael eich enwaedu ydy er mwyn iddyn nhw gael brolio am y peth!
14
“Na!” meddwn innau. Does ond un peth i frolio amdano: croes ein Harglwydd Iesu Grist ydy hwnnw. Mae'r groes yn golygu fod y byd a'i bethau yn hollol farw i mi, a dw innau'n farw i'r byd a'i bethau.
15
Dim cael eich enwaedu neu beidio sy'n bwysig bellach. Beth sy'n bwysig ydy bod eich bywyd chi wedi ei newid yn llwyr — eich bod chi'n greadigaeth newydd!
16
Dw i'n gweddïo y bydd pawb sy'n byw fel hyn, a phobl Dduw i gyd, yn profi ei heddwch dwfn a'i drugaredd!
17
Felly o hyn ymlaen, peidied neb â dal ati i greu mwy o helynt i mi. Mae gen i greithiau ar fy nghorff sy'n dangos mod i'n perthyn i Iesu!
18
Frodyr a chwiorydd, dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu Grist! Amen.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
All chapters:
1
2
3
4
5
6
Recommended Reading
Commentary
Galatians Commentaries
→
Devotional
Galatians Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→