bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Lamentations 5
Lamentations 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni. Edrycha arnon ni yn ein cywilydd!
2
Mae'n gwlad wedi ei rhoi yn nwylo'r gelyn, a'n cartrefi wedi eu meddiannu gan bobl estron.
3
Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau, ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon.
4
Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed, a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu.
5
Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau; wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys.
6
Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria, er mwyn cael digon o fwyd i fyw.
7
Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu; a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw.
8
Mae caethweision yn feistri arnon ni, a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.
9
Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd, am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.
10
Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn; mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.
11
Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion, a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.
12
Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr, a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.
13
Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin, a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.
14
Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas, ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.
15
Mae pob llawenydd wedi diflannu; yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.
16
Mae'r dathlu wedi dod i ben. Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!
17
Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder; mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,
18
am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag; dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.
19
Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth; mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.
20
Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni? Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir?
21
Tynn ni'n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl. Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.
22
Neu wyt ti wedi'n gwrthod ni'n llwyr? Wyt ti wedi digio'n lân gyda ni?
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5