bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Zephaniah 2
Zephaniah 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Dewch, casglwch at eich gilydd, y genedl sydd heb gywilydd.
2
Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir, ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us — Cyn i'r ARGLWYDD wylltio'n lân gyda chi; cyn i'w ddydd barn eich dal chi!
3
Gofynnwch i'r ARGLWYDD eich helpu, chi sy'n cael eu cam-drin yn y wlad ac sy'n ufudd i'w orchmynion. Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig. Falle y cewch eich cuddio mewn lle saff ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.
4
Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion. Bydd pobl Ashdod wedi eu gyrru i ffwrdd cyn canol dydd, a tref Ecron wedi ei bwrw i lawr.
5
Gwae chi sy'n byw ar lan y môr — bobl Philistia ddaeth o Creta. Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid, mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn: “Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”
6
Bydd yr arfordir yn dir pori — dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.
7
Bydd tir y glannau yn eiddo i'r bobl sydd ar ôl o Jwda; Nhw fydd yn pori yno ac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon. Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw, a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.
8
“Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio a phobl Ammon yn enllibio — gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.
9
Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel. “Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! — yn llawn chwyn a phyllau halen, ac yn dir diffaith am byth. Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo, a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
10
Dyna fydd eu tâl am eu balchder, am wawdio a bygwth pobl yr ARGLWYDD holl-bwerus.
11
Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn, a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim. Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r ARGLWYDD yn eu gwledydd eu hunain.
12
A chi, bobl dwyrain Affrica, bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi.
13
Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r gogledd ac yn dinistrio Asyria. Bydd dinas Ninefe yn adfeilion; yn sych fel anialwch diffaith.
14
Bydd pob math o anifeiliaid gwylltion yn gorwedd yn ei chanol. Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion, ac yn hwtian yn y ffenestri. Bydd rwbel ar bob rhiniog a'r waliau'n noeth am fod yr holl waith coed wedi ei rwygo allan.
15
Dyna ddaw o'r ddinas llawn miri oedd yn ofni neb na dim! Roedd yn meddwl, “Fi ydy'r un! — Does neb tebyg i mi!” Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl — lle i anifeiliaid gwyllt gael byw! Bydd pawb sy'n mynd heibio yn ei gwawdio a gwneud ystumiau arni.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3