bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Peter 5
1 Peter 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
1
Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o'r gogoniant a ddatguddir:
2
Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl;
3
Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i'r praidd.
4
A phan ymddangoso'r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant.
5
Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i'r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i'ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.
6
Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas:
7
Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi.
8
Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio'r neb a allo ei lyncu.
9
Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni'r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.
10
A Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch sefydlo.
11
Iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12
Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw'r hwn yr ydych yn sefyll ynddo.
13
Y mae'r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i.
14
Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu. Amen.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
All chapters:
1
2
3
4
5