bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
1 Timothy 5
1 Timothy 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
1
Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a'r rhai ieuainc, megis brodyr;
2
Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb.
3
Anrhydedda'r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon.
4
Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu'r pwyth i'w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.
5
Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.
6
Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.
7
A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.
8
Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di‐ffydd.
9
Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,
10
Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.
11
Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant;
12
Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.
13
A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.
14
Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i'r gwrthwynebwr i ddifenwi.
15
Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan.
16
Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.
17
Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.
18
Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu'r ŷd: ac, Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.
19
Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn, oddieithr dan ddau neu dri o dystion.
20
Y rhai sydd yn pechu, cerydda yng ngŵydd pawb, fel y byddo ofn ar y lleill.
21
Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn, heb wneuthur dim o gydbartïaeth.
22
Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.
23
Nac yf ddwfr yn hwy; eithr arfer ychydig win, er mwyn dy gylla a'th fynych wendid.
24
Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o'r blaen, yn rhagflaenu i farn; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.
25
Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o'r blaen; a'r rhai sydd amgenach, nis gellir eu cuddio.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
Recommended Reading
Commentary
1 Timothy Commentaries
→
Devotional
1 Timothy Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→