bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Peter 2
2 Peter 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu'r Arglwydd yr hwn a'u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.
2
A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd.
3
Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a'u colledigaeth hwy nid yw yn hepian.
4
Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i'w cadw i farnedigaeth;
5
Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir;
6
A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a'u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol;
7
Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid:
8
(Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:)
9
Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni:
10
Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas:
11
Lle nid yw'r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd.
12
Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i'w dal ac i'w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain;
13
Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi;
14
A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra; plant y felltith:
15
Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder;
16
Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â'r iau, gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd.
17
Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i'r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd.
18
Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau'r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio'r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn.
19
Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.
20
Canys os, wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â'r pethau hyn, a'u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na'u dechreuad.
21
Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt.
22
Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a'r hwch wedi ei golchi, i'w hymdreiglfa yn y dom.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3