bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Thessalonians 2
2 Thessalonians 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynulliad ninnau ato ef,
2
Na'ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos.
3
Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw'r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio'r dyn pechod, mab y golledigaeth;
4
Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw.
5
Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi?
6
Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun.
7
Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith.
8
Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha'r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad:
9
Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,
10
A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.
11
Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd:
12
Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.
13
Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i'r gwirionedd:
14
I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15
Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni.
16
A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tad, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras,
17
A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3