bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Timothy 2
2 Timothy 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
1
Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2
A'r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda'r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd.
3
Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist.
4
Nid yw neb a'r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau'r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn filwr.
5
Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon.
6
Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau.
7
Ystyria'r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a'r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth.
8
Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i:
9
Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir.
10
Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol.
11
Gwir yw'r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef:
12
Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ninnau:
13
Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun.
14
Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.
15
Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.
16
Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.
17
A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus;
18
Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.
19
Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo'r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.
20
Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch.
21
Pwy bynnag gan hynny a'i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.
22
Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.
23
Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau.
24
Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar,
25
Mewn addfwynder yn dysgu'r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd;
26
A bod iddynt ddyfod i'r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4