bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Ephesians 4
Ephesians 4
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
1
Deisyf gan hynny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio ohonoch yn addas i'r alwedigaeth y'ch galwyd iddi,
2
Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad;
3
Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd.
4
Un corff sydd, ac un Ysbryd, megis ag y'ch galwyd yn un gobaith eich galwedigaeth;
5
Un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6
Un Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.
7
Eithr i bob un ohonom y rhoed gras, yn ôl mesur dawn Crist.
8
Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion.
9
(Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear?
10
Yr hwn a ddisgynnodd, yw'r hwn hefyd a esgynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.)
11
Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn broffwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon;
12
I berffeithio'r saint, i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist:
13
Hyd onid ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth Mab Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist:
14
Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwman, ac yn ein cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwystra i gynllwyn i dwyllo:
15
Eithr, gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu ohonom iddo ef ym mhob peth, yr hwn yw'r pen, sef Crist:
16
O'r hwn y mae'r holl gorff wedi ei gydymgynnull a'i gydgysylltu, trwy bob cymal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corff, i'w adeiladu ei hun mewn cariad.
17
Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae'r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl,
18
Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon:
19
Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant.
20
Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist;
21
Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae'r gwirionedd yn yr Iesu:
22
Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus;
23
Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl;
24
A gwisgo'r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.
25
Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir bob un wrth ei gymydog: oblegid aelodau ydym i'n gilydd.
26
Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:
27
Ac na roddwch le i ddiafol.
28
Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach: eithr yn hytrach cymered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda; fel y byddo ganddo beth i'w gyfrannu i'r hwn y mae angen arno.
29
Na ddeued un ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi, ond y cyfryw un ag a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro ras i'r gwrandawyr.
30
Ac na thristewch Lân Ysbryd Duw, trwy'r hwn y'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.
31
Tynner ymaith oddi wrthych bob chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyda phob drygioni:
32
A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddau i'ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6