bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Galatians 3
Galatians 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
1
O y Galatiaid ynfyd, pwy a'ch llygad‐dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith?
2
Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd?
3
A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?
4
A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd.
5
Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae?
6
Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
7
Gwybyddwch felly mai'r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.
8
A'r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd.
9
Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon.
10
Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.
11
Ac na chyfiawnheir neb trwy'r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
12
A'r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna'r pethau hynny, a fydd byw ynddynt.
13
Crist a'n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren:
14
Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd.
15
Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato.
16
I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i'w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i'w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i'th had di, yr hwn yw Crist.
17
A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw'r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer.
18
Canys os o'r ddeddf y mae'r etifeddiaeth, nid yw haeach o'r addewid: ond Duw a'i rhad roddodd i Abraham trwy addewid.
19
Beth gan hynny yw'r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai'r had, i'r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr.
20
A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un.
21
A ydyw'r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o'r ddeddf y buasai cyfiawnder.
22
Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i'r rhai sydd yn credu.
23
Eithr cyn dyfod ffydd, y'n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i'r ffydd, yr hon oedd i'w datguddio.
24
Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y'n cyfiawnheid trwy ffydd.
25
Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro.
26
Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu.
27
Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist.
28
Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu.
29
Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6