bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Haggai 1
Haggai 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 2 →
1
Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,
2
Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.
3
Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,
4
Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?
5
Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
6
Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb; a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.
7
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.
8
Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr ARGLWYDD.
9
Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.
10
Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaear roddi ei ffrwyth.
11
Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷd ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo.
12
Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr ARGLWYDD.
13
Yna Haggai cennad yr ARGLWYDD a lefarodd trwy genadwri yr ARGLWYDD wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr ARGLWYDD.
14
Felly y cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl; a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt,
15
Y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 2 →
All chapters:
1
2