bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
James 2
James 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
1
Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb.
2
Oblegid os daw i mewn i'ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael;
3
Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo'r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i:
4
Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg?
5
Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?
6
Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw'r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd?
7
Onid ydynt hwy'n cablu'r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi?
8
Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur:
9
Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr.
10
Canys pwy bynnag a gadwo'r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl.
11
Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu'r gyfraith.
12
Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid.
13
Canys barn ddidrugaredd fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.
14
Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef?
15
Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth,
16
A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau'r corff; pa les fydd?
17
Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig.
18
Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau.
19
Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae'r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.
20
Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw?
21
Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor?
22
Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio.
23
A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef.
24
Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig.
25
Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi'r cenhadau, a'u danfon ymaith ffordd arall?
26
Canys megis y mae'r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5