bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Obadiah 1
Obadiah 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
1
Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr ARGLWYDD, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi.
2
Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3
Balchder dy galon a'th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a'm tyn i'r llawr?
4
Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a'th ddisgynnwn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.
5
Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y'th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn?
6
Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef!
7
Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a'th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a'th dwyllasant, ac a'th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo.
8
Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y doethion allan o Edom, a'r deall allan o fynydd Esau?
9
Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
10
Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a'th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth.
11
Y dydd y sefaist o'r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i'w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt.
12
Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.
13
Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:
14
Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd.
15
Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun.
16
Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent.
17
Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt.
18
Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr ARGLWYDD a'i dywedodd.
19
Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a'r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead;
20
A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau.
21
A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a'r frenhiniaeth fydd eiddo yr ARGLWYDD.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1