bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Philemon 1
Philemon 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
1
Paul, carcharor Crist Iesu, a'r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a'n cyd-weithiwr,
2
Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at Archipus ein cyd-filwr, ac at yr eglwys sydd yn dy dŷ di:
3
Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
4
Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau,
5
Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint;
6
Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a'r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu.
7
Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd.
8
Oherwydd paham, er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus:
9
Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist.
10
Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:
11
Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd;
12
Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i:
13
Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl.
14
Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd.
15
Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd;
16
Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?
17
Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn gydymaith, derbyn ef fel myfi.
18
Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i;
19
Myfi Paul a'i hysgrifennais â'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd.
20
Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd.
21
Gan hyderu ar dy ufudd-dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
22
Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi.
23
Y mae yn dy annerch, Epaffras, fy nghyd-garcharor yng Nghrist Iesu;
24
Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd-weithwyr.
25
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi. Amen. At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda'r gwas Onesimus.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1