bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Philippians 3
Philippians 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
1
Weithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd. Ysgrifennu yr un pethau atoch, gennyf fi yn wir nid yw flin, ac i chwithau y mae yn ddiogel.
2
Gochelwch gŵn, gochelwch ddrwgweithwyr, gochelwch y cyd‐doriad.
3
Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd:
4
Ac er bod gennyf achos i ymddiried, ie, yn y cnawd. Os yw neb arall yn tybied y gall ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:
5
Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Benjamin, yn Hebrëwr o'r Hebreaid; yn ôl y ddeddf yn Pharisead;
6
Yn ôl sêl, yn erlid yr eglwys; yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf, yn ddiargyhoedd.
7
Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Crist.
8
Ie, yn ddiamau, yr wyf hefyd yn cyfrif pob peth yn golled oherwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Crist Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn y'm colledwyd ym mhob peth, ac yr wyf yn eu cyfrif yn dom, fel yr enillwyf Grist,
9
Ac y'm ceir ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Crist, sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffydd:
10
Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fod wedi fy nghydffurfio â'i farwolaeth ef;
11
Os mewn un modd y gallwn gyrhaeddyd atgyfodiad y meirw:
12
Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eisoes, neu fod eisoes wedi fy mherffeithio; eithr dilyn yr wyf, fel y gallwyf ymaflyd yn y peth hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu.
13
Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio'r pethau sydd o'r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o'r tu blaen,
14
Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.
15
Cynifer gan hynny ag ydym berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgen, hyn hefyd a ddatguddia Duw i chwi.
16
Er hynny, y peth y daethom ato, cerddwn wrth yr un rheol, syniwn yr un peth.
17
Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi.
18
(Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt;
19
Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.)
20
Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist:
21
Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â'i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4