bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 John 1
2 John 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
1
Yr Henuriad at yr etholedig Foneddiges a'i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru mewn gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd sydd yn adnabod y Gwirionedd;
2
er mwyn y Gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd:
3
Gras, trugaredd, tangnefedd fyddont gyda ni oddiwrth Dduw Dâd, ac oddiwrth Iesu Grist, Mab y Tâd, mewn gwirionedd a chariad.
4
Llawenychais yn ddirfawr am gael o honof rai o'th blant yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn oddiwrth y Tâd.
5
Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, Foneddiges, nid megys yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o'r dechreuad, garu o honom ein gilydd.
6
A hyn ydyw y cariad, bod i ni rodio yn ol ei orchymynion ef. Hwn yw y gorchymyn: Megys y clywsoch o'r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo ef.
7
Canys twyllwyr lawer a aethant allan i'r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu fod Iesu Grist yn dyfod yn y cnawd. Hwn yw y twyllwr a'r Anghrist.
8
Edrychwch atoch eich hunain na cholloch yr hyn a weithredasom, ond derbyn o honoch yn ol llawn wobr.
9
Pwy bynnag sydd yn myned rhagddo ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef; yr hwn sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, hwn sydd ganddo y Tâd a'r Mab.
10
Os yw neb yn dyfod atoch, ac heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i'r tŷ, ac na roddwch gyfarchiad iddo;
11
canys yr hwn sydd yn rhoddi iddo gyfarchiad sydd yn gyfrannog o'i weithredoedd drwg ef.
12
A chennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, ni ewyllysiais ysgrifennu a phapur ac ingc, eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
13
Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1