bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
2 Peter 3
2 Peter 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Hwn eisoes, anwyliaid, yw yr ail epistol yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yn y rhai yr ydwyf yn cyffrôi eich meddwl didwyll trwy ddwyn ar gof i chwi,
2
sef i gofio y geiriau a rag‐ddywedwyd gan y prophwydi sanctaidd, a gorchymyn yr Arglwydd a'r Iachawdwr trwy eich Apostolion:
3
gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr gyda gwatwor, yn rhodio yn ol eu chwantau eu hunain,
4
ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei Ddyfodiad? canys er pan hunodd y Tadau, y mae pob peth yn parhâu fel yr oeddynt o ddechreuad creadigaeth.
5
Canys y maent yn anwybyddu hyn o'u gwirfodd, bod nefoedd er ys talm, a daear wedi eu ffurfio allan o ddwfr a thrwy ddwfr, trwy Air Duw:
6
trwy y rhai y byd a oedd y pryd hwnnw wedi ei orlifo â dwfr, a ddyfethwyd:
7
eithr y nefoedd sydd yn awr, a'r ddaear, ydynt trwy yr un Gair wedi eu trysori i fyny i dân, yn cael eu cadw erbyn dydd y Farn a distryw dynion annuwiol.
8
Eithr nac anwybyddwch yr un peth hwn, anwyliaid, fod un dydd gyda'r Arglwydd megys mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megys un dydd;
9
Nid oedi ei Addewid y mae yr Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oediad, eithr hir‐ymarhöus yw efe tuag atoch chwi, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.
10
Eithr Dydd yr Arglwydd a ddaw megys lleidr, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf rhuthrol, a'r elfennau gan wres deifiol a ymddatodant, a'r ddaear a'r gweithiau sydd ynddi a losgir i fyny.
11
A chan fod y pethau hyn i gyd fel hyn i gael eu datod, pa ryw fath ddynion ddylech chwi fod ym mhob sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,
12
gan ddisgwyl a phrysuro Dyfodiad Dydd Duw, o herwydd yr hwn y nefoedd gan fod ar dân a ddatodir, a'r elfennau gan wres deifiol a doddant?
13
Eithr nefoedd newydd a daear newydd yr ydym ni, yn ol ei Addewid, yn eu disgwyl, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.
14
O herwydd paham, anwyliaid, gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn, byddwch eiddgar ar eich cael mewn tangnefedd, yn ddifrycheulyd ac yn ddifeius ganddo ef.
15
A chyfrifwch hir‐amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, megys hefyd ag yr ysgrifennodd ein hanwyl frawd Paul atoch chwi, yn ol y doethineb a roddid iddo ef;
16
fel hefyd yn ei holl Epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn; yn y rhai y mae pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr anwybodus a'r anwadal yn eu gŵyr‐droi, fel yr Ysgrythyrau eraill hefyd, i'w dinystr eu hunain.
17
Chwychwi gan hynny, anwyliaid, yn gwybod y pethau hyn o'r blaen, gwyliwch rhag wedi eich arwain gan gyfeiliornad y rhai drygionus, gwympo o honoch oddi wrth eich sefydlogrwydd eich hunain;
18
ond cynhyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Iddo ef y byddo y Gogoniant yn awr ac i Ddydd Tragwyddoldeb.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3