bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Jude 1
Jude 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
1
Judas, gwasanaethwr Iesu Grist a brawd Iago, at y rhai a alwyd, rhai anwyl yn Nuw Dâd, ac a gedwir i Iesu Grist:
2
Trugaredd i chwi a thangnefedd a chariad a amlhâer.
3
Anwyliaid, pan yn meddu pob eiddgarwch i ysgrifennu atoch ynghylch ein hiachawdwriaeth gyffredinol ni, angenrhaid oedd i mi ysgrifennu atoch, gan eich annog i ymdrechu yn egniol dros y Ffydd a draddodwyd unwaith am byth i'r Saint.
4
Canys rhai dynion a ymlusgasant i mewn yn llechwraidd — y rhai yr ysgrifennwyd i lawr eu henwau ymlaen llaw er ys talm i'r farnedigaeth hon, dynion annuwiol, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu ein hunig Feistr a'n Harglwydd, Iesu Grist.
5
Ac yr wyf yn ewyllysio eich coffâu chwi, a chwi yn gwybod pob peth yn hollol, i'r Arglwydd, wedi iddo waredu y bobl o dir yr Aipht, ddistrywio ar ol hynny y rhai ni chredasant.
6
Ac angelion, y rhai ni chadwasant ei safle ddechreuol, eithr a adawsant eu trigfa ei hun, a gadwodd efe mewn rhwymau tragwyddol, dan dywyllwch, i Farn y Dydd Mawr —
7
fel y mae Sodom a Gomorrah, a'r Dinasoedd o'u hamgylch, wedi ymroddi i buteindra mewn cyffelyb fodd i'r rhai hyn, a myned ar ol cnawd dyeithr, wedi eu gosod allan fel esiampl, gan ddyoddef dialedd tân tragwyddol.
8
Eto yr un ffunnud y mae y rhai hyn hefyd, gan freuddwydio, yn halogi y cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu urddasolion.
9
Eithr Michael yr Archangel, pan yn dadleu â'r Diafol, a ymresymai âg ef ynghylch corph Moses, ni feiddiodd ddwyn yn ei erbyn farn cabledd, ond dywedodd, Cerydded yr Arglwydd di.
10
Eithr y rhai hyn a gablant pa bethau bynnag nis gwyddant; a pha bethau bynnag y maent yn eu deall yn reddfol, fel y creaduriaid direswm, yn y rhai yr ymlygrant.
11
Gwae hwynt‐hwy! canys yn ffordd Cain yr aethant, ac yng nghyfeiliornad Balaam er gwobr y rhuthrasant, ac a'u dyfethwyd yng ngwrth-ddywediad Corah.
12
Y rhai hyn sydd frychau yn eich Cariad‐wleddoedd, yn cyd‐wledda â chwi, yn ddiofn yn eu pesgi eu hunain; cymylau diddwfr, yn cael eu cludo ymlaen gan wyntoedd; prennau hydrefol heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio;
13
gwyllt‐donnau y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; ser gwibiog, i'r rhai y mae duwch y tywyllwch wedi ei gadw yn dragywydd.
14
Ac i'r rhai hyn hefyd y prophwydodd Enoch, y seithfed o Adda, gan ddywedyd, Wele, daeth yr Arglwydd gyda'i fyrddiynau sanctaidd,
15
i wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i argyhoeddi yr holl rai annuwiol o holl weithredoedd eu hannuwioldeb y rhai a wnaethant yn annuwiol, o'r holl bethau celyd, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
16
Y rhai sydd rwgnachwyr; yn cerdded yn ol eu chwantau (ac y mae eu genau yn llefaru geiriau gor‐chwyddedig), yn mawrygu wynebau er mwyn budd.
17
Eithr chwi, anwyliaid, cofiwch y geiriau a rag‐ddywedwyd gan Apostolion ein Harglwydd Iesu Grist,
18
ddywedyd o honynt i chwi: Yn yr amser diweddaf bydd gwatwarwyr yn cerdded yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain.
19
Hwy yw y rhai sydd yn achosi ymraniadau, yn gnawdolfrydig, heb fod yr Yspryd ganddynt.
20
Eithr chwychwi, anwyliaid, gan adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, gan weddio yn yr Yspryd Glân,
21
ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl am drugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol.
22
A rhai argyhoeddwch pan y maent yn ymddadleu;
23
a rhai achubwch, gan eu cipio hwy allan o'r tân; ac wrth rai trugarhêwch, mewn ofn, gan gasâu hyd yn nod y wisg a halogwyd gan y cnawd.
24
Yn awr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi heb dripio, a'ch gosod ger bron ei Ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,
25
i'r Unig Dduw ein Hiachawdwr ni trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y mae gogoniant, mawredd, nerth, ac awdurdod, cyn pob amser, ac yn awr, ac i'r holl oesoedd. Amen.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1