bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Philemon 1
Philemon 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
1
Paul, carcharor Crist Iesu, a Thimotheus ein brawd, at Philemon ein hanwylyd a'n cyd‐weithiwr,
2
ac at Apphia ein chwaer, ac at Archippus ein cyd‐filwr, a'r eglwys sydd yn dy dŷ di:
3
Gras i chwi a thangnefedd oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.
4
Yr wyf yn diolch i'm Duw yn wastadol, gan wneuthur coffa am danat yn fy ngweddiau,
5
gan glywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint —
6
fel y bo i gymdeithas dy ffydd ddyfod yn effeithiol, trwy lawn‐adnabyddiaeth o bob peth da sydd ynom ni, tuag at Grist.
7
Canys cefais lawer o lawenydd a dyddanwch yn dy gariad di, o herwydd i galonnau y saint gael eu hadlonni trwot ti, frawd.
8
O herwydd paham, er fod gennyf yng Nghrist lawer o hyfdra i orchymyn i ti yr hyn sydd gyfaddas,
9
o achos cariad yn hytrach yr wyf yn attolwg, a mi yn gyfryw un a Phaul yr hynafgwr, ac yn awr hefyd yn garcharor Crist Iesu;
10
yr wyf yn attolwg ti ynghylch fy mhlentyn, yr hwn a genhedlais yn fy rhwymau, Onesimus,
11
yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond sydd yn awr i ti ac i minnau yn fuddiol,
12
yr hwn a ddanfonais yn ol attat, efe ei hun, hynny yw, fy nghalon fy hun;
13
yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei gadw gyda mi, fel ar dy ran y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl;
14
eithr heb dy feddwl di ni ddymunwn wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megys o anghenrhaid ond o wirfodd.
15
Canys o herwydd hyn, efallai, y gwahanwyd ef oddiwrthyt am amser byr fel y byddai gennyt am byth;
16
nid fel caethwas mwyach, eithr uwchlaw caethwas, yn frawd anwyl, yn bennaf i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd?
17
Os wyt ti gan hynny yn fy nghymmeryd i yn gyfrannogwr a thi, derbyn ef fel myfi.
18
Ond os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yn dy ddyled, dyro hynny at fy nghyfrif i;
19
myfi Paul a ysgrifennaf â'm llaw fy hun, Myfi a dalaf: fel na ddywedwyf wrthyt dy fod yn ddyledus i mi ym mhellach am danat dy hun.
20
Ie, frawd, gâd i mi dderbyn llês oddiwrthyt yn yr Arglwydd; adlonna fy nghalon yng Nghrist.
21
Gan hyderu ar dy ufudd‐dod yr ysgrifennaf attat, gan wybod y gwnei, ië, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
22
Heblaw hyn hefyd, parottoa i mi letty: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi y caniateir i mi ddyfod attoch.
23
Y mae yn dy gyfarch Epaphras fy nghyd‐garcharor yng Nghrist Iesu;
24
Marc, Aristarchus, Demas, Luc, fy nghyd‐weithwyr.
25
Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch yspryd chwi. Amen.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1