bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
1 Peter 4
1 Peter 4
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
1
AM hynny can ddioddef o Christ trosomni yn y cnawd, chwithe hevyd arf og wch ychunain ar vnryw fedðwl, ys ef bot i hwn a ddioddefodd yn y cnawd, beidio a phecod,
2
Ir mwyn hyn na bo iddo o hyn allan (tros yr hyn sy yngweddill or amser yn y cnawd) fyw ar ol trachwantay dynion, eithr ar ol wollys Dyw.
3
Cans digon ydyw y ni dreulio o honom yr amser aeth heibio or enioes, ar ol trachwāt y cenhedloeð, yn rrodio mewn drythyllwch, trachwantay, meddtod, glothineb, ymyved, a ffiaidd addoli‐delway.
4
Achos pam may yn chwith canthunt, na byddech yn cydredec gidagwynt, ir vnrryw ormodd rrysedd, dan ych dychanu chvvi.
5
Rrain y bydd rraid vddynt roy cyfri ir neb, sy barawd y farnu y byw ar meirw.
6
Cans ir mwyn hynny y pregethwyd yr evengil ir meirw hevyd, mal y gellid y cyfyrgolli hwynt, ar rann dynion, yn y cnawd, eithyr y gellynt fyw ar rann Ddyw yn yr ysbryd. Yr Epistol ar y sul gwedy yr Derchavael.
7
Diwedd pob peth sy yn agosau. Am hynny bydwch gymesurol, a deffroedic y weddiaw.
8
Ymlaen pob peth bid cariad twym yn yn ych plith: can ys cariad a guddia liaws pechoday.
9
Lledteywch bawb y gilidd, yn ddi vurmur.
10
Pawb megis ac y cafas rodd, byddet iddo eu chyfrannu ay gilidd, mal dayonys stiwardiaid am ryw ras Dyw,
11
Os dowaid neb, dyvvedet megis gair Dyw. Os gweini a wna neb gvvnaed hynny megis or gallu y may Dyw yn i roddi, mal y molianner Dyw ymhob peth trwy Iesu Christ, ir hwn y may gogoniant, ac arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.
12
Caredigion, na fid chwith cenych y praw sy arnoch trwy dan, rrwn a wneid ir profedigaeth ywch, val pe digwydday ywch ryw beth dierth:
13
Eithr llawenhewch, can ych bod chwi yn gyfrannoc ar g oddefiaday Christ, mal y galloth pan eglurer y ogoniant ef, fod yn llawen ac yn hyfryd.
14
Os dirmygir chwi er mvvyn Enw Christ, dedwydd ydych: cans yspryd y gogoniant, ac (yspryt Dyw a orphwysa arnoch: rrwn ar y rran hwynt a gayff anair: ac ar ych rran chwi a foliennir.
15
Eithr na fid i neb o honoch oddef advyd mal llofrydd‐celain, neu leidr, neu ddrygwas, neu fal vn a vo yn ymyrreth a materion rrai eraill.
16
Eithr os dyoddef neb megis cristion, na fid quilidd cantho, namyn molianned Ddyw yn hynny o ran.
17
Can ys yr amser a ddoeth, y bydd rraid ir farn ddechre ar dy Dyw. Ac o dydiw yn gyntaf yn dechre arnam ni, pa ryw ddiwed a fydd ir rrai ni choyliant evengil Ddyw?
18
Ac os prin g ir iacheir y cyfion, yr enwir ar pechadur ple ir ymddengis?
19
Ac am hynny gwnaed y rrai sy yn goddef ar ol wollys Dyw, ymroi yddo ef eu heneiddiau trwy wneuthyr yn dda, megis ir creawd y r ffyðlon.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5