bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
/
1 Timothy 1
1 Timothy 1
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
1
PAwl apostol Iesu Christ, trwy ordinhaad Dyw eyn keidwad, ar arglwydd, Iessu Christ eyn gobaith,
2
At Tymoth e us fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a heddwch can Ddyw eyn tad, a’ chan Christ Iessu eyn Arglwydd.
3
Megis i dysyfais arnat aros yn Ephesus, pan aethym i ymaith i Vacedonia, gvvna velly, mal i gellych rybuddio rrai, na ddyscont amryw ddyskeidiaeth.
4
Ag nad ystyriant chwedlay, ag achay anorffen, rrain kynt yddynt fagu questiwnay, nag edeiladaeth dywiol sy drwy ffydd.
5
Can ys diwedd y gorchymyn ydiw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffyð ðiau.
6
O ddiwrth y rrain i kiliasont rrai, ag a droysont at oferson,
7
hwy a fynnen fod yn ddoctoriaid y gyfraith, heb na dyall yr hyn a ddoytont, nar pethau i boont yn i sikerhau.
8
Nyni a wyddom, eisus taw da y gyfraith, os erfyr dyn hi yn gyfreithlon,
9
can wybod hynn, na ddodwyd y gyfraith ir kyfion, eithr ir rrai afreolus ac ir anostyngedigion, ir hai andywiol, ar pechaduriaid, ir rrai enwir, a’ rrai anlan, i lawruddogion tad a’ llawruddogion mam, i lawruddogion‐dynion,
10
ir putteniwyr, ir bwggeryddion, i ladron dynion, i rrai celwyddog, ir anudonwyr, ag od oys dim arall, rrwn sy wrthwyneb i athrawaeth iachus.
11
Y sydd ar ol ’gogoneddus efengil y bengidedig ddyw, a ymddiriedwyd i myfi.
12
Am hynny diolch i ddwy ir hwn, a roes ym allu ’sef Christ Iesu eyn Arglwyð: can ys ef am barnoð yn ffyðlon, ac am dodes yn eu wasanaeth:
13
a’ mine or blaen yn cablwr, ag yn emlidiwr, ag yn draws: eithr trugarhau wrthyf a wnaeth ef: cans yn anwybod us i gwneuthym trwy angrredinieth.
14
Eithyr tra gor ddigonawdd rrad eyn Arglwydd gida ffydd a chariad, hwn ’sydd yn‐Christ Iesu.
15
Gair gwir yvv hvvnn, ag ym pob modd yn heuddu cymeriad, mai Christ Iesu a ddoeth ir byd i gadw pechaduriaid, o rrain pennaf ydwyfi.
16
Eithr achos hyn i trugarhaodd wrthyf, mal i bai i Iesu Christ ðangos ynof yn gyntaf pob hir‐oddeu, ir syampl yddyntwy, rrain rrag llaw a grettont ynthaw herwyð y bowyd tragwyddol.
17
Weithian ir brenin tragwyðol, difarwol, anweledig ol, vnig synhwyrol Ddyw, i bo vrddas, a gogoniant yn oysoedd oesau, Amen.
18
Y gorchymyn hwn i ddwyf yn y roddi attatti, fy mab Timotheus, mal ar ol y proffodolaethay, a gerddasout or blaen am danat, i gellech trwyddynt wy ymdrechu yr ymdrechiad ta,
19
trwy gadw ffyð a’ chydwybod dda, rron a ddodasont rrai heibio, ac a wnaythont long gyfer goll am y ffydd.
20
O rrai hyn i may Hymeneus, ac Alexander, rrain a ddy roddais i Satan, i ddyscu vddynt na chablont.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6