bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
2 John 1
2 John 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
1
Yr henuriad at yr arglwyddes etholedig a'i phlant. Yr wyf fi, ac nid myfi yn unig, ond pawb sydd wedi dod i wybod y gwirionedd, yn eich caru yn y gwirionedd,
2
er mwyn y gwirionedd sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni am byth.
3
Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
4
Bu'n llawenydd mawr i mi gael rhai o'th blant di yn rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn gan y Tad.
5
Ac yn awr yr wyf yn erfyn arnat, arglwyddes, ond nid fel un yn ysgrifennu iti orchymyn newydd; gorchymyn a oedd gennym o'r dechrau ydyw, sef ein bod i garu ein gilydd.
6
A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn l ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad.
7
Oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i'r byd, y rhai nad ydynt yn cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd; dyma'r twyllwr a'r Anghrist.
8
Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn.
9
Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo.
10
Os daw rhywun atoch heb ddod 'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch 'i dderbyn i'ch tu375? na'i gyfarch ef,
11
oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus.
12
Er bod gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, gwell gennyf beidio 'u hysgrifennu phapur ac inc; rwy'n gobeithio dod atoch, a siarad chwi wyneb yn wyneb, ac yna bydd ein llawenydd yn gyflawn.
13
Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch di.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1