bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
3 John 1
3 John 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
1
Yr henuriad at Gaius, y gu373?r annwyl yr wyf fi yn ei garu yn y gwirionedd.
2
Gyfaill annwyl, yr wyf yn dymuno iechyd iti, a llwyddiant ym mhob peth, fel y mae dy enaid yn llwyddo.
3
Oherwydd yr oedd yn llawenydd mawr i mi pan fyddai cyfeillion yn dod ac yn tystio i'th wirionedd di, i'r modd yr wyt ti'n rhodio yn y gwirionedd.
4
Nid oes dim sy'n fwy o lawenydd i mi na chlywed bod fy mhlant yn rhodio yn y gwirionedd.
5
Gyfaill annwyl, yr wyt ti'n gwneud peth teilwng wrth wasanaethu'r cyfeillion, a hwythau'n ddieithriaid.
6
Y maent hwy wedi tystio gerbron yr eglwys i'th gariad di; da ti, rho iddynt ar eu taith gymorth teilwng o Dduw.
7
Oherwydd er mwyn yr Enw yr aethant allan, heb dderbyn dim gan y Cenhedloedd.
8
Felly dylem ni gynorthwyo pobl o'r fath, er mwyn inni fod yn gydweithwyr dros y gwirionedd.
9
Ysgrifennais air at yr eglwys, ond nid yw Diotreffes, sy'n chwenychu bod yn ben arnynt, yn derbyn ein hawdurdod.
10
Felly, pan ddof, byddaf yn galw sylw at yr hyn y mae'n ei wneud, yn clebran yn ein herbyn geiriau drygionus; ac yn wir, nid yw'n fodlon ar eiriau y mae'n gwrthod derbyn y cyfeillion, ac yn gwahardd y rhai sydd am eu derbyn, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys.
11
Gyfaill annwyl, efelycha ddaioni, nid drygioni. Y sawl sy'n gwneud daioni, o Dduw y mae; ond y sawl sy'n gwneud drygioni, nid yw wedi gweld Duw.
12
Y mae gair da i Demetrius gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun; ac yr ydym ninnau hefyd yn tystio iddo, a gwyddost fod ein tystiolaeth ni yn wir.
13
Y mae gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atat, ond gwell gennyf beidio ag ysgrifennu atat phen ac inc.
14
Rwy'n gobeithio dy weld yn fuan, a chawn siarad wyneb yn wyneb. {cf2 (1:15)} Tangnefedd i ti! Y mae'r cyfeillion yma yn dy gyfarch. Cyfarch di y cyfeillion yna, bob un wrth ei enw.
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1