bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Haggai 1
Haggai 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 2 →
1
Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai at Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac at Josua fab Josedec, yr archoffeiriad.
2
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Y mae'r bobl hyn yn dweud na ddaeth yr amser i adeiladu tu375?'r ARGLWYDD."
3
A daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:
4
"Ai amser yw i chwi eich hunain fyw yn eich tai moethus, a'r tu375? hwn yn adfeilion?"
5
Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Ystyriwch eich cyflwr.
6
Hauasoch lawer, ond medi ychydig; yr ydych yn bwyta, ond heb gael digon; yr ydych yn yfed, ond heb eich llenwi byth; yr ydych yn ymwisgo, ond heb fod yn gynnes byth; y mae'r sawl sy'n ennill cyflog yn ei gadw mewn cod dyllog."
7
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Ystyriwch eich cyflwr.
8
Ewch i'r mynydd, torrwch goed i adeiladu'r tu375?, i mi gael ymhyfrydu ynddo a chael anrhydedd," medd yr ARGLWYDD.
9
"Yr ydych yn edrych am lawer, ond yn cael ychydig; pan ddygwch y cynhaeaf adref, yr wyf yn chwythu arno. Pam?" medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Am fod fy nhu375? yn adfeilion, a chwithau bob un ohonoch thu375? i fynd iddo.
10
Dyna pam yr ataliodd y nefoedd y gwlith ac y cadwodd y ddaear ei ffrwyth,
11
ac y cyhoeddais innau sychder ar y ddaear, y mynyddoedd, yr u375?d, y gwin, yr olew, ar bopeth o gynnyrch y tir, ar ddyn ac anifail, ac ar holl lafur dwylo."
12
Gwrandawodd Sorobabel fab Salathiel a Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu Duw a geiriau Haggai, y proffwyd a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw; ac ofnodd y bobl o flaen yr ARGLWYDD.
13
Yna llefarodd Haggai, cennad yr ARGLWYDD, neges yr ARGLWYDD i'r bobl: "Yr wyf fi gyda chwi," medd yr ARGLWYDD.
14
A chynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac ysbryd Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a gweddill y bobl; a daethant a dechrau gweithio ar du375? ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw hwy,
15
ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 2 →
All chapters:
1
2