bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Hosea 4
Hosea 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 5 →
1
Clywch air yr ARGLWYDD, blant Israel. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn trigolion y tir, am nad oes ffyddlondeb, cariad na gwybodaeth o Dduw yn y tir,
2
ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata, godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.
3
Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion; dygir ymaith anifeiliaid y maes, adar yr awyr hefyd a physgod y mr.
4
"Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb; y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.
5
Yr wyt yn baglu liw dydd, a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos. Dinistriaf dy fam;
6
difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth; am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi; am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.
7
"Fel yr amlhnt, mwy y pechant yn f'erbyn; trof eu gogoniant yn warth.
8
Bwytnt bechod fy mhobl, ac estyn eu safn at eu drygioni.
9
Bydd y bobl fel yr offeiriad; fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.
10
Bwytnt, ond heb eu digoni, puteiniant, ond heb amlhau, am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.
11
"Y mae puteindra, gwin a gwin newydd yn dwyn ymaith y deall.
12
Y mae fy mhobl yn ymofyn phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo; oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd, troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.
13
Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd, ac yn offrymu ar y bryniau, o dan y dderwen, y boplysen a'r terebinth am fod eu cysgod yn dda. "Am hynny, y mae eich merched yn puteinio a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu.
14
Ni chosbaf eich merched pan buteiniant, na'ch merched-yng-nghyfraith pan odinebant, oherwydd y mae'r dynion yn troi at buteiniaid ac yn aberthu gyda'r puteiniaid y cysegr. Pobl heb ddeall, fe'u difethir.
15
"Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog. Peidiwch mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen, a pheidiwch thyngu, 'Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw.'
16
Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin; a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa?
17
"Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.
18
Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra! Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad gwarth.
19
Clymodd y gwynt hwy yn ei adenydd, a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14