bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Joel 2
Joel 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Canwch utgorn yn Seion, bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd. Cryned holl drigolion y wlad am fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod; y mae yn agos
2
dydd o dywyllwch ac o gaddug, dydd o gymylau ac o ddwch. Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd, wele luoedd mawr a chryf; ni fu eu bath erioed, ac ni fydd ar eu hl ychwaith am genedlaethau dirifedi.
3
Ysa tn o'u blaen a llysg fflam ar eu hl. Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden, ond ar eu hl yn anialwch diffaith, ac ni ddianc dim rhagddo.
4
Y maent yn ymddangos fel ceffylau, ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5
Fel torf o gerbydau neidiant ar bennau'r mynyddoedd; fel su373?n fflamau tn yn ysu sofl, fel byddin gref yn barod i ryfel.
6
Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt, a gwelwa pob wyneb.
7
Rhuthrant fel milwyr, dringant y mur fel rhyfelwyr; cerdda pob un yn ei flaen heb wyro o'i reng.
8
Ni wthiant ar draws ei gilydd, dilyn pob un ei lwybr ei hun; er y saethau, ymosodant ac ni ellir eu hatal.
9
Rhuthrant yn erbyn y ddinas, rhedant dros ei muriau, dringant i fyny i'r tai, nt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
10
Ysgwyd y ddaear o'u blaen a chryna'r nefoedd. Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu a'r sr yn atal eu goleuni.
11
Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin; y mae ei lu yn fawr iawn, a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf. Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD, ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
12
"Yn awr," medd yr ARGLWYDD, "dychwelwch ataf 'ch holl galon, ag ympryd, wylofain a galar.
13
Rhwygwch eich calon, nid eich dillad, a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw." Graslon a thrugarog yw ef, araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb, ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14
Pwy a u373?yr na thry a thosturio, a gadael bendith ar ei l bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15
Canwch utgorn yn Seion, cyhoeddwch ympryd, galwch gymanfa,
16
cynullwch y bobl. Neilltuwch y gynulleidfa, cynullwch yr henuriaid, casglwch y plant, hyd yn oed y babanod. Doed y priodfab o'i ystafell a'r briodferch o'i siambr.
17
Rhwng y porth a'r allor wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, a dweud, "Arbed dy bobl, O ARGLWYDD. Paid gwneud dy etifeddiaeth yn warth ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd. Pam y dywedir ymysg y bobloedd, 'Ple mae eu Duw?'"
18
Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir, a thrugarhau wrth ei bobl.
19
Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl, "Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew nes eich digoni; ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
20
Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych, a'i yrru i dir sych a diffaith, 'i reng flaen at fr y dwyrain a'i reng l at fr y gorllewin; bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi, am iddo ymorchestu."
21
Paid ag ofni, ddaear; bydd lawen a gorfoledda, oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
22
Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion, oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas; bydd y coed yn dwyn ffrwyth, a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
23
Blant Seion, byddwch lawen, gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw; oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol; fe dywallt y glawogydd ichwi, y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
24
Bydd y llawr dyrnu yn llawn o u375?d a'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
25
"Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr, y locust difaol a'r cyw locust, fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.
26
"Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni, a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw, a wnaeth ryfeddod chwi. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
27
Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel, ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall. Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
28
"Ar l hyn tywalltaf fy ysbryd ar bawb; bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo, bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion, a'ch gwu375?r ifainc yn cael gweledigaethau.
29
Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.
30
"Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear, gwaed a thn a cholofnau mwg.
31
Troir yr haul yn dywyllwch a'r lleuad yn waed cyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.
32
A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub, oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol, fel y dywedodd yr ARGLWYDD, ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3