bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Obadiah 1
Obadiah 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
1
Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am Edom (clywsom genadwri gan yr ARGLWYDD; anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd: "Codwch! Gadewch inni fynd i frwydr yn eu herbyn"):
2
"Wele, gwnaf di'n fychan ymysg y cenhedloedd, ac fe'th lwyr ddirmygir.
3
Twyllwyd di gan dy galon falch, ti sy'n byw yn agennau'r graig, a'th drigfan yn uchel; dywedi yn dy galon, 'Pwy a'm tyn i'r llawr?'
4
Er iti esgyn cyn uched 'r eryr, a gosod dy nyth ymysg y sr, fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno," medd yr ARGLWYDD.
5
"Pe di lladron atat, neu ysbeilwyr liw nos (O fel y'th ddinistriwyd!), onid digon iddynt eu hunain yn unig a ysbeilient? Pe di cynaeafwyr grawnwin atat, oni adawent loffion?
6
O fel yr anrheithiwyd Esau, ac yr ysbeiliwyd ei drysorau!
7
Y mae dy holl gynghreiriaid wedi dy dwyllo, y maent wedi dy yrru dros y terfyn; y mae dy gyfeillion wedi dy drechu, dy wahoddedigion wedi gosod magl i ti nid oes deall ar hyn.
8
Ar y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "oni ddileaf ddoethineb o Edom, a deall o fynydd Esau?
9
Y mae dy gedyrn mewn braw, O Teman, fel y torrir ymaith bob un o fynydd Esau.
10
Am y lladdfa, ac am y trais yn erbyn dy frawd Jacob, fe'th orchuddir gan warth, ac fe'th dorrir ymaith am byth.
11
"Ar y dydd y sefaist draw, ar y dydd y dygodd estroniaid ei gyfoeth, ac y daeth dieithriaid trwy ei byrth a bwrw coelbren am Jerwsalem, yr oeddit tithau fel un ohonynt.
12
Ni ddylit ymfalcho ar ddydd dy frawd, dydd ei drallod. Ni ddylit lawenhau dros blant Jwda ar ddydd eu dinistr; ni ddylit wneud sbort ar ddydd gofid.
13
Ni ddylit fynd i borth fy mhobl ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymfalcho yn eu dinistr ar ddydd eu hadfyd; ni ddylit ymestyn am eu heiddo ar ddydd eu hadfyd.
14
Ni ddylit sefyll ar y groesffordd i ddifa eu ffoaduriaid; ni ddylit drosglwyddo'r rhai a ddihangodd ar ddydd gofid.
15
"Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw ar yr holl genhedloedd. Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti; fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun.
16
Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd, fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid; yfant a llowciant, a mynd yn anymwybodol.
17
"Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol a fydd yn sanctaidd; meddianna tu375? Jacob ei eiddo'i hun.
18
A bydd tu375? Jacob yn dn, tu375? Joseff yn fflam, a thu375? Esau yn gynnud; fe'i cyneuant a'i losgi, ac ni fydd gweddill o du375? Esau, oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD.
19
Bydd y Negef yn meddiannu mynydd Esau, a'r Seffela yn meddiannu gwlad y Philistiaid; byddant yn meddiannu tir Effraim a thir Samaria, a bydd Benjamin yn meddiannu Gilead.
20
Bydd pobl Israel, caethgludion y fyddin, yn meddiannu Canaan hyd Sareffath; a chaethgludion Jerwsalem yn Seffarad yn meddiannu dinasoedd y Negef.
21
Bydd gwaredwyr yn mynd i fyny i Fynydd Seion, i reoli mynydd Esau; a bydd y frenhiniaeth yn eiddo i'r ARGLWYDD."
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1