bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Philemon 1
Philemon 1
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Jump to:
Chapter 1
1
Paul, carcharor Crist Iesu, a Timotheus ein brawd, at Philemon, ein cydweithiwr annwyl,
2
ac Apffia, ein chwaer, ac Archipus, ein cydfilwr; ac at yr eglwys sy'n ymgynnull yn dy du375?.
3
Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
4
Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser wrth gofio amdanat yn fy ngweddau,
5
oherwydd fy mod yn clywed am dy gariad, a'r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu ac at yr holl saint.
6
Yr wyf yn deisyf y bydd y ffydd, sy'n gyffredin i ti a ninnau, yn gyfrwng effeithiol i ddyfnhau dealltwriaeth o'r holl ddaioni sy'n eiddo i ni yng Nghrist.
7
Oherwydd cefais lawer o lawenydd a symbyliad trwy dy gariad, gan fod calonnau'r saint wedi eu llonni drwot ti, fy mrawd.
8
Gan hynny, er bod gennyf berffaith ryddid yng Nghrist i roi gorchymyn i ti ynglu375?n 'th ddyletswydd,
9
yr wyf yn hytrach, ar sail cariad, yn apelio atat. Ie, myfi, Paul, a mi'n llysgennad Crist Iesu, ac yn awr hefyd yn garcharor drosto,
10
apelio yr wyf atat ar ran fy mhlentyn, Onesimus, un y deuthum yn dad iddo yn y carchar.
11
Bu ef gynt yn ddi-fudd i ti, ond yn awr y mae'n fuddiol iawn i ti ac i minnau.
12
Yr wyf yn ei anfon yn l atat, ac yntau bellach yn rhan ohonof fi.
13
Mi hoffwn ei gadw gyda mi, er mwyn iddo weini arnaf yn dy le di tra byddaf yng ngharchar o achos yr Efengyl.
14
Ond ni fynnwn wneud dim heb dy gydsyniad di, rhag i'th garedigrwydd fod o orfod, nid o wirfodd.
15
Efallai, yn wir, mai dyma'r rheswm iddo gael ei wahanu oddi wrthyt dros dro, er mwyn iti ei dderbyn yn l am byth,
16
nid fel caethwas mwyach ond fel un sy'n fwy na chaethwas, yn frawd annwyl annwyl iawn i mi, ond anwylach fyth i ti, fel dyn ac fel Cristion.
17
Os wyt, felly, yn fy ystyried i yn gymar, derbyn ef fel pe bait yn fy nerbyn i.
18
Os gwnaeth unrhyw gam thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf fi.
19
Yr wyf fi, Paul, yn ysgrifennu 'm llaw fy hun: fe dalaf fi yn l, a hynny heb sn dy fod ti'n ddyledus i mi hyd yn oed amdanat dy hun.
20
Ie, frawd, mi fynnwn gael ffafr gennyt ti yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.
21
Yr wyf yn ysgrifennu atat mewn sicrwydd y byddi'n ufuddhau; gwn y byddi'n gwneud mwy nag yr wyf yn ei ofyn.
22
Yr un pryd hefyd, paratoa lety imi, oherwydd rwy'n gobeithio y caf fy rhoi i chwi mewn ateb i'ch gweddau.
23
Y mae Epaffras, fy nghydgarcharor yng Nghrist Iesu, yn dy gyfarch;
24
a Marc, Aristarchus, Demas a Luc, fy nghydweithwyr.
25
Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi!
Jump to:
Chapter 1
All chapters:
1