bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Titus 3
Titus 3
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Dwg ar gof iddynt eu bod i ymostwng i'r awdurdodau sy'n llywodraethu, i fod yn ufudd iddynt, a bod yn barod i wneud unrhyw weithred dda;
2
i beidio bwrw anfri ar neb, ond i fod yn heddychol ac yn ystyriol, gan ddangos addfwynder yn gyson tuag at bawb.
3
Oherwydd fe fuom ninnau hefyd un amser yn ffl, yn anufudd, ar gyfeiliorn, yn gaethweision i amryfal chwantau a phleserau, a'n bywyd yn llawn malais a chenfigen, yn atgas gan eraill ac yn casu ein gilydd.
4
Ond pan amlygwyd daioni Duw, ein Gwaredwr, a'i gariad tuag at bobl,
5
fe'n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o'i drugaredd ei hun. Fe'n hachubodd ni trwy olchiad yr ailenedigaeth ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Gln,
6
a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth drwy Iesu Grist, ein Gwaredwr.
7
Ei ddiben oedd ein cyfiawnhau drwy ei ras, ac mewn gobaith, ein gwneud yn etifeddion bywyd tragwyddol.
8
Dyna air i'w gredu. Ac y mae'n ddymuniad gennyf i ti fynnu hyn: bod y rhai a ddaeth i gredu yn Nuw i ofalu eu bod yn ymroi i weithredoedd da. Dyma gyngor da a buddiol i bawb.
9
Ond gochel gwestiynau ffl, ac achau, a chynhennau a chwerylon ynghylch y Gyfraith, oherwydd di-fudd ac ofer ydynt.
10
Am yr un a fyn greu rhaniadau, ar l iddo gael ei rybuddio, a'i ailrybuddio, paid gwneud dim mwy ag ef;
11
fe wyddost fod un felly wedi ei wyrdroi, ei fod yn pechu, a thrwy hynny yn ei gollfarnu ei hun.
12
Pan anfonaf Artemas neu Tychicus atat, gwna dy orau i ddod ataf i Nicopolis, oherwydd yr wyf wedi penderfynu bwrw'r gaeaf yno.
13
Gwna dy orau hefyd dros y cyfreithiwr, Zenas, ac Apolos, i'w hebrwng ar eu taith, gan ofalu na fyddant yn fyr o ddim.
14
Rhaid i'n pobl ni hefyd ddysgu ymroi i waith gonest i gyfarfod ag angenrheidiau bywyd; os na wnnt, byddant yn ddi-les.
15
Y mae pawb sydd gyda mi yn dy gyfarch. Rho fy nghyfarchion i'r rhai sydd yn ein caru yn y ffydd. Gras fyddo gyda chwi oll!
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3