bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Zephaniah 2
Zephaniah 2
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ymgasglwch a dewch ynghyd, genedl ddigywilydd,
2
cyn i chwi gael eich gyrru ymaith, a diflannu fel us, cyn i gynddaredd llid yr ARGLWYDD ddod arnoch, cyn i ddydd dicter yr ARGLWYDD ddod arnoch.
3
Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai gostyngedig y ddaear sy'n cadw ei ddeddfau; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch ostyngeiddrwydd; efallai y cewch guddfan yn nydd llid yr ARGLWYDD.
4
Bydd Gasa yn anghyfannedd ac Ascalon yn ddiffaith; gyrrir allan drigolion Asdod ganol dydd, a diwreiddir Ecron.
5
Gwae drigolion glan y mr, cenedl y Cerethiaid! Y mae gair yr ARGLWYDD yn eich erbyn, O Ganaan, gwlad y Philistiaid: "Difethaf chwi heb adael trigiannydd ar l."
6
A bydd glan y mr yn borfa, yn fythod i fugeiliaid ac yn gorlannau i ddefaid.
7
Bydd glan y mr yn eiddo i weddill tu375? Jwda; yno y porant, a gorwedd fin nos yn nhai Ascalon. Oherwydd bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn ymweld hwy ac yn adfer eu llwyddiant.
8
"Clywais wawd Moab a gwatwaredd yr Ammoniaid, fel y bu iddynt wawdio fy mhobl a bygwth eu terfyn.
9
Am hynny, cyn wired 'm bod i'n fyw," medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, "bydd Moab fel Sodom, a'r Ammoniaid fel Gomorra, yn dir danadl, yn bentwr o halen, yn ddiffaith am byth. Bydd y rhai a adawyd o'm pobl yn eu hanrheithio, a gweddill fy nghenedl yn meddiannu eu tir."
10
Dyma'r tl am eu balchder, am iddynt wawdio a bygwth pobl ARGLWYDD y Lluoedd.
11
Bydd yr ARGLWYDD yn ofnadwy yn eu herbyn, oherwydd fe ddarostwng holl dduwiau'r ddaear hyd newyn, a bydd holl arfordir y cenhedloedd yn ymostwng iddo, pob un yn ei le ei hun.
12
Chwithau hefyd, Ethiopiaid, fe'ch lleddir 'm cleddyf.
13
Ac fe estyn ei law yn erbyn y gogledd, a dinistrio Asyria; fe wna Ninefe'n anialwch, yn sych fel diffeithwch.
14
Bydd diadelloedd yn gorwedd yn ei chanol, holl anifeiliaid y maes; bydd y pelican ac aderyn y bwn yn nythu yn ei thrawstiau; bydd y dylluan yn llefain yn ei ffenestr, a'r gigfran wrth y rhiniog, am fod y cedrwydd yn noeth.
15
Dyma'r ddinas fostfawr oedd yn byw mor ddiofal, ac yn dweud wrthi ei hun, "Myfi, nid oes neb ond myfi." Y fath ddiffeithwch ydyw, lloches i anifeiliaid gwylltion! Bydd pob un a heibio iddi yn chwibanu ac yn codi dwrn arni.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3