bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Peter 2
2 Peter 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ond yr oedd hefyd au-brophwydi ymhlith y bobl, fel hefyd yn eich plith chwi y bydd gau-ddysgawdwyr, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresiau dinystriol, hyd yn oed y Meistr a’u prynodd yn cael Ei wadu ganddynt,
2
yn dwyn arnynt eu hunain ddinystr buan: a llawer a ganlynant eu hanlladrwydd hwynt, o herwydd y rhai Ffordd y Gwirionedd a geblir:
3
ac mewn cybydd-dod, â geiriau ffuantus y gwnant farsiandiaeth o honoch chwi; i’r rhai eu condemniad er ys talm nid yw segur, a’u dinystr nid yw’n hepian:
4
canys os angylion a bechasent nad arbedodd Duw, eithr i bydewau tywyll, gan eu rhoddi yn Tartarus, y traddodes hwynt, yn cael eu cadw i farn;
5
ac yr hen fyd nad arbedodd Efe; eithr gyda saith eraill, Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd Efe, pan ar fyd yr annuwiolion y dug Efe ddiluw:
6
a dinasoedd Sodom a Gomorrah, wedi eu troi hwynt yn lludw, a gondemniodd Efe â dymchweliad, gan osod esiampl i’r rhai ar fedr byw yn annuwiol;
7
ond Lot gyfiawn, yn cael ei ddirfawr boeni gan ymarweddiad y rhai digyfraith mewn anlladrwydd, a waredodd Efe,
8
(canys wrth weled a chlywed, y cyfiawn hwnw, yn trigo yn eu plith, o ddydd i ddydd a arteithiai ei enaid cyfiawn â’ u gweithredoedd anghyfreithlawn;)
9
gŵyr yr Arglwydd pa fodd i waredu duwiolion o demtasiwn, ac i gadw anghyfiawnion, yn cael eu ceryddu, i ddydd y farn;
10
ac yn bennaf y rhai sy’n rhodio ar ol y cnawd yn chwant halogrwydd, ac yn dirmygu llywodraeth; rhyfygusion, cyndyniaid; pan urddas a gablant, ni chrynant;
11
tra nad yw angylion, a hwy mewn nerth a gallu yn fwy, yn dwyn yn eu herbyn hwynt ger bron yr Arglwydd farn gablaidd.
12
Ond y rhai hyn, fel anifeiliaid direswm wedi eu geni wrth naturiaeth er dalfa a distryw, yn cablu yn y pethau na wyddant, yn eu distryw y’u distrywir, yn cael anghyfiawnder yn wobr anghyfiawnder;
13
pleser y barnant loddest liw dydd; brychau a meflau, yn gloddesta yn eu cariad-wleddoedd tra yn gwledda gyda chwi;
14
a llygaid ganddynt yn llawn godineb ac na fedrant beidio â phechod; yn llithio eneidiau ansefydlog; a chalon wedi ymgynnefino â chybydd-dra ganddynt; plant melldith;
15
gan adael yr iawn ffordd aethant ar gyfeiliorn, yn canlyn ffordd Balaam, mab Bozor, yr hwn fu a chyflog anghyfiawnder yn hoff ganddo,
16
ond argyhoeddiad a gafodd o’i gamwedd: ysgrubl aflafar â llef dyn a ddywedodd ac a rwystrodd orphwyll y prophwyd.
17
Y rhai hyn ydynt ffynhonnau diddwfr; niwloedd a thymhestl yn eu gyrru;
18
i’r rhai y mae duder tywyllwch mewn cadw; canys chwyddedig bethau gor-wagedd yn cael eu dywedyd ganddynt, llithiant yn chwantau’r cnawd, yn anlladrwydd, y rhai sydd rhyw faint yn diangc o’r rhai sydd â’u hymarweddiad mewn cyfeiliornad:
19
rhyddid a addawant iddynt, a hwy eu hunain yn gaeth-weision i lygredigaeth; canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnw yr aeth hefyd yn gaeth;
20
canys os ar ol diangc o honynt rhag halogedigaethau’r byd trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd ac Achubwr, Iesu Grist; ac yn y pethau hyn yr ymblethant ac y’u gorchfygir, iddynt yr aeth eu cyflwr olaf yn waeth na’r cyntaf:
21
canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, droi yn ol oddiwrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt;
22
a digwyddodd iddynt fatter y wir ddiareb, “Ci wedi troi at ei chwydiad ei hun,” ac “Hwch wedi ymolchi, i ymdreiglad yn y dom.”
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3