bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
2 Peter 3
2 Peter 3
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Hwn yn awr, frodyr, yr ail epistol, yr wyf yn ei ysgrifenu attoch, yn y rhai cyffroi eich meddwl puraidd yr wyf trwy ddwyn ar gof i chwi,
2
i gofio’r geiriau a rag-ddywedwyd gan y sanctaidd brophwydi, a gorchymyn yr Arglwydd ac Achubwr trwy eich apostolion;
3
a hyn yn gyntaf yn adnabyddus genych, sef y daw yn y dyddiau diweddaf watwarwyr gyda gwatwariad, ac yn ol eu chwantau eu hunain y rhodiant;
4
ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid Ei ddyfodiad, canys er’s y bu i’r tadau huno, pob peth sy’n parhau fel hyn o ddechreuad y creadigaeth?
5
Canys anadnabyddus ganddynt yw hyn, o’u gwirfodd, sef, Y nefoedd oedd er ys talm, a’r ddaear wedi ei chydgyssylltu allan o’ r dwfr, a thrwy’ r dwfr, trwy air Duw;
6
trwy y rhai, am y byd a oedd y pryd hwnw, a dwfr yn llifo drosto, y darfu;
7
ond y nefoedd y sydd yr awr hon, ac y ddaear, trwy’r un gair, y’u hystorwyd i dân, yn cael eu cadw erbyn dydd y farn a distryw’r anwir ddynion.
8
Ond yr un peth hwn na fydded yn anadnabyddus genych, anwylyd, fod un dydd gyda’r Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un dydd.
9
Nid oedi Ei addewid y mae’r Arglwydd, fel y mae rhai yn cyfrif oed, eithr hir-ymarhöus yw tuag attoch, heb ewyllysio i neb rhyw rai fyned ar goll, eithr i bawb ddyfod i edifeirwch.
10
Ond daw dydd yr Arglwydd fel lleidr, yn yr hwn y nefoedd gyda thwrf a ant heibio, a’r elfennau a losgir ac a ddattodir, a’r ddaear a’r gweithioedd ynddi a lwyr-losgir.
11
Y pethau hyn i gyd i’w cael eu dattod fel hyn, pa fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,
12
gan ddisgwyl a phrysuro dyfodiad dydd Duw, o herwydd yr hwn y nefoedd, gan fod ar dân a ddattodir; a’r elfennau, gan losgi, a doddir?
13
Ond nefoedd newydd a daear newydd, yn ol ei addewid Ef, a ddisgwyliwn, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.
14
O herwydd paham, anwylyd, a’r pethau hyn yn eu disgwyl genych, byddwch ddyfal ar eich cael yn ddifrycheulyd ac yn ddianaf yn Ei olwg Ef mewn tangnefedd:
15
ac hir-ymaros ein Harglwydd cyfrifwch yn iachawdwriaeth, fel y bu hefyd i’n brawd anwyl, Paul,
16
yn ol y doethineb a roddwyd iddo, ysgrifenu attoch; fel hefyd yn ei holl epistolau, gan lefaru ynddynt am y pethau hyn, yn y rhai y mae rhai pethau anhawdd eu deall, y rhai y mae’r annysgedigion a’r ansefydlogion yn eu gwyrdroi, fel yr ysgrythyrau eraill hefyd, i’w dinystr eu hunain.
17
Chwychwi, gan hyny, anwylyd, gan ragwybod hyn, gwyliwch rhag, gan gael eich dwyn ymaith gyda chyfeiliornad yr annuwiolion, gwympo o honoch oddiwrth eich sefydlogrwydd eich hunain;
18
ond cynnyddwch yng ngras a gwybodaeth ein Harglwydd ac Achubwr Iesu Grist. Iddo Ef y bo’r gogoniant yn awr ac yn dragywydd. Amen.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3