bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Titus 1
Titus 1
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Paul, gwas i Dduw, ac apostol i Iesu Grist, yn ol ffydd etholedigion Duw a gwybodaeth y gwirionedd y sydd yn ol duwioldeb,
2
yngobaith bywyd tragywyddol, yr hwn a addawodd y digelwyddog Dduw cyn yr amseroedd tragywyddol,
3
ac a amlygodd yn Ei amseroedd priodol Ei air yn y Cyhoeddiad a ymddiriedwyd i myfi yn ol gorchymyn ein Hiachawdwr Duw,
4
at Titus fy ngwir blentyn yn ol y ffydd gyffredinol: gras, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad a Christ Iesu ein Hiachawdwr.
5
Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta, fel yr iawn-drefnit y pethau oedd ar ol, ac y gosodit ym mhob dinas henuriaid fel y gorchymynais i i ti.
6
Os yw neb yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, a phlant ganddo yn credu, heb eu cyhuddo o afradlondeb, nac yn afreolus:
7
canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd, megis disdain Duw; nid yn gyndyn, nid yn ddigllawn, nid yn gwerylus, nid yn darawydd, nid yn budr-elwa;
8
eithr yn lletteugar, yn caru’r hyn sy dda, yn sobr ei feddwl, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno ei hun,
9
yn dal at y Gair ffyddlawn y sydd yn ol dysgad, fel y bo yn abl i gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac i argyhoeddi y rhai sy’n gwrth-ddywedyd.
10
Canys y mae llawer yn afreolus, yn ofer-siaradus a cham-arweinwyr,
11
yn enwedig y rhai o’r amdorriad, y rhai y mae rhaid cau eu safnau; y rhai, tai cyfan a ddymchwelant, gan ddysgu y pethau na ddylid, er mwyn budr elw.
12
Dywedodd rhyw un o honynt, prophwyd o honynt eu hunain, “Cretiaid bob amser yn gelwyddwyr, drwg fwystfilod, boliau diog.”
13
Y dystiolaeth hon sydd wir; am ba achos argyhoedda hwynt yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd,
14
heb ddal ar chwedlau Iwddewaidd, a gorchymynion dynion yn troi oddiwrth y gwirionedd.
15
Pob peth sydd bur i’r rhai pur; ond i’r rhai halogedig a di-ffydd nid oes dim yn bur, eithr halogwyd eu deall hwy a’u cydwybod.
16
Adnabod Duw a broffesant, ond â’u gweithredoedd y gwadant Ef, gan fod yn ffiaidd, ac yn anufudd, ac at bob gweithred dda yn anghymmeradwy.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3