bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
/
Titus 2
Titus 2
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
1
Ond tydi, llefara’r pethau a weddant i’r athrawiaeth iachus;
2
i hynaf-gwyr fod yn gymmedrol, yn ddifrifol, yn sobr eu meddwl, yn iach yn y ffydd, yn eu cariad, yn eu hamynedd;
3
i’r hynaf-wragedd, yr un ffunud, fod mewn ymddygiad yn hybarch, nid yn enllibaidd, nac wedi eu caethiwo i win lawer,
4
yn dysgu’r hyn sydd dda, fel y sobront feddyliau y gwragedd ieuaingc i garu eu gwŷr, i garu eu plant;
5
i fod yn sobr eu meddyliau, yn ddiwair, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ymddarostwng i’w gwŷr, fel na bo i Air Duw ei gablu.
6
Y gwŷr ieuaingc, yr un ffunud,
7
cynghora i fod yn sobr eu meddyliau: ym mhob peth yn dangos dy hun yn esiampl o weithredoedd da; yn dy ddysgad yn dangos anllygredigaeth,
8
difrifoldeb, ymadrodd iach na ellir ei gondemnio, fel y bo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim sydd ddrwg i’w ddywedyd am danom.
9
Gweision cynghora i ymddarostwng i’w meistriaid; ym mhob peth i ryngu bodd iddynt,
10
nid yn gwrth-ddywedyd, nid yn darn-guddio, eithr yn dangos pob ffyddlondeb da, fel athrawiaeth Dduw ein Hiachawdwr yr addurnont ym mhob peth;
11
canys ymddangosodd gras Duw, yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn,
12
yn ein hyfforddi, fel gan wadu annuwioldeb a’r chwantau bydol, y bo i ni fyw â meddyliau sobr, ac yn gyfiawn,
13
ac yn dduwiol yn y byd y sydd yn awr, gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac am ymddangosiad gogoniant y Duw mawr a’n Hiachawdwr Iesu Grist,
14
yr Hwn a’i rhoddes Ei hun trosom, fel y prynai ni oddiwrth bob anghyfraith, ac y’n purai Iddo Ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.
15
Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na fydded i neb dy ddirmygu di.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3