bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Corinthians 13
2 Corinthians 13
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Hwn fydd y trydydd tro i mi ymweld â chi. “Rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.”
2
Dw i wedi rhoi un rhybudd i'r rhai oedd wedi bod yn pechu y tro dwetha roeddwn i gyda chi. Dw i ddim gyda chi ar hyn o bryd, ond dw i'n rhoi ail rybudd (iddyn nhw a phawb sydd wedi ymuno â nhw). Fydda i'n dangos dim trugaredd y tro nesa!
3
Wedi'r cwbl, dych chi eisiau prawf fod y Meseia yn siarad trwof fi. Dydy e ddim yn wan yn y ffordd mae e'n delio gyda chi — mae'n gweithio'n nerthol yn eich plith chi!
4
Mae'n wir ei fod yn wan pan gafodd ei ladd ar y groes, ond mae bellach yn byw drwy nerth Duw. A'r un modd, dŷn ni sy'n perthyn iddo yn wan, ond byddwn ni'n rhannu ei fywyd e — a'r bywyd hwnnw sydd trwy nerth Duw yn ein galluogi ni i'ch gwasanaethu chi.
5
Chi ddylai edrych arnoch eich hunain i weld a ydych yn byw'n ffyddlon. Dylech chi roi eich hunain ar brawf! Ydych chi ddim yn sylweddoli fod y Meseia Iesu yn eich plith chi? — os na, dych chi wedi methu'r prawf.
6
Beth bynnag, dw i'n hyderus eich bod chi'n gweld ein bod ni ddim wedi methu'r prawf.
7
Ond dim cael pobl i weld ein bod ni wedi pasio'r prawf ydy'r rheswm pam dŷn ni'n gweddïo ar Dduw na fyddwch chi'n gwneud dim o'i le. Dŷn ni am i chi wneud beth sy'n iawn hyd yn oed os ydy'n ymddangos ein bod ni wedi methu.
8
Dŷn ni ddim am wneud unrhyw beth sy'n rhwystr i'r gwirionedd, dim ond beth sy'n hybu'r gwirionedd.
9
Yn wir, dŷn ni'n ddigon balch o fod yn wan os dych chi'n gryfion. Ein gweddi ni ydy ar i chi gael eich adfer.
10
Dyna pam dw i'n ysgrifennu atoch chi fel hyn tra dw i'n absennol — dw i ddim eisiau gorfod bod yn galed arnoch chi a defnyddio'r awdurdod mae'r Arglwydd wedi ei roi i mi. Dw i eisiau cryfhau, dim chwalu'ch ffydd chi.
11
Felly i gloi, ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd a gwrando ar beth dw i'n eich annog chi i'w wneud. Cytunwch â'ch gilydd, a byw mewn perthynas iach â'ch gilydd. A bydd y Duw sy'n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi.
12
Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae pobl Dduw i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
13
Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a'r rhannu hwnnw mae'r Ysbryd Glân yn ei ysgogi.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
Recommended Reading
Commentary
2 Corinthians Commentaries
→
Devotional
2 Corinthians Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→