bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Corinthians 2
2 Corinthians 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
Dyna pam wnes i benderfynu peidio talu ymweliad arall fyddai'n achosi poen i bawb.
2
Os ydw i'n eich gwneud chi'n drist, pwy sy'n mynd i godi fy nghalon i? Yr un dw i wedi achosi poen iddo?
3
Yn wir, dyna pam ysgrifennais i fel y gwnes i yn fy llythyr. Doeddwn i ddim am ddod i'ch gweld chi, a chael fy ngwneud yn drist gan yr union bobl ddylai godi nghalon i! Roeddwn i'n siŵr mai beth sy'n fy ngwneud i'n hapus sy'n eich gwneud chi'n hapus yn y pen draw.
4
Roedd ysgrifennu'r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Roeddwn i'n ddigalon iawn, a bues i'n wylo'n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau eich gwneud chi'n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i'n eich caru chi!
5
Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i'r peth swnio'n waeth nag y mae.)
6
Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i'w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir.
7
Erbyn hyn mae'n bryd i chi faddau iddo a'i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu'n llwyr a suddo i anobaith.
8
Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi'n dal i'w garu.
9
Roeddwn i'n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio'r prawf a bod yn gwbl ufudd.
10
Dw i'n maddau i bwy bynnag dych chi'n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi — os oedd rhywbeth i mi i'w faddau. Mae'r Meseia ei hun yn gwybod fy mod i wedi gwneud hynny.
11
Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni'n gwybod yn iawn am ei gastiau e!
12
Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd,
13
doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i'n disgwyl. Felly dyma fi'n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano.
14
Ond diolch i Dduw, mae'r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni'n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy'r byd i gyd!
15
Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli — y rhai sy'n cael eu hachub a'r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw.
16
Mae fel mwg gwenwynig i'r ail grŵp, ond i'r lleill yn bersawr hyfryd sy'n arwain i fywyd. Pwy sy'n ddigon da i wneud gwaith mor bwysig? Neb mewn gwirionedd!
17
Ond o leia dŷn ni ddim yn pedlera neges Duw i wneud arian, fel mae llawer o rai eraill. Fel arall yn hollol! — dŷn ni'n gwbl ddidwyll. Gweision y Meseia ydyn ni, yn cyhoeddi'r neges mae Duw wedi ei rhoi i ni, ac yn siarad yn gwbl agored o flaen Duw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13