bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Kings 24
2 Kings 24
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 25 →
1
Pan oedd Jehoiacim yn frenin, dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Buodd Jehoiacim dan ei reolaeth am dair blynedd. Ond yna dyma fe'n gwrthryfela.
2
Dyma'r ARGLWYDD yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw'n dinistrio'r wlad fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei weision y proffwydi.
3
Does dim amheuaeth mai'r ARGLWYDD wnaeth drefnu i hyn ddigwydd. Roedd e am eu gyrru nhw o'i olwg o achos yr holl bethau drwg roedd Manasse wedi eu gwneud.
4
Roedd wedi lladd pobl ddiniwed — roedd staen eu gwaed ym mhobman drwy Jerwsalem, a doedd yr ARGLWYDD ddim am faddau hynny.
5
Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
6
Pan fuodd Jehoiacim farw daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.
7
Wnaeth brenin yr Aifft ddim dod allan o'i wlad i ymladd eto, am fod brenin Babilon wedi concro'r holl diroedd roedd e'n arfer eu rheoli, o Wadi'r Aifft i Afon Ewffrates.
8
Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. Enw ei fam oedd Nechwshta (merch Elnathan o Jerwsalem).
9
Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD fel ei dad o'i flaen.
10
Yr adeg yma dyma fyddin Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod a gwarchae ar Jerwsalem.
11
Tra roedden nhw'n gwarchae arni dyma Nebwchadnesar ei hun yn dod i arwain yr ymosodiad.
12
A dyma Jehoiachin, brenin Jwda, yn ildio ac yn mynd allan at frenin Babilon gyda'i fam, gweinidogion y llywodraeth, ei gapteiniaid a swyddogion y palas. Roedd Nebwchadnesar wedi bod yn frenin am wyth mlynedd pan gymerodd Jehoiachin yn garcharor.
13
Yna dyma Nebwchadnesar yn cymryd trysorau'r deml i gyd, a thrysorau'r palas, a malu'r holl lestri aur roedd y brenin Solomon wedi eu gwneud i'r deml. Digwyddodd y cwbl yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio.
14
A dyma fe'n cymryd pobl Jerwsalem yn gaethion, gan gynnwys y capteniaid a'r milwyr dewr, y crefftwyr a'r gweithwyr metel — deg mil o bobl i gyd. Doedd neb ar ôl ond y werin dlawd.
15
Dyma fe'n mynd â Jehoiachin yn gaeth i Babilon, a'i fam a'i wragedd, swyddogion y palas a pobl fawr y wlad i gyd.
16
Aeth â'r saith mil o filwyr oedd yn y wlad yn gaethion, a'r mil o ofaint a gweithwyr metel — pob milwr dewr oedd yn gallu ymladd.
17
Yna dyma frenin Babilon yn gwneud Mataneia (ewythr Jehoiachin) yn frenin, a newid ei enw i Sedeceia.
18
Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un mlynedd. Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna).
19
Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y brenin Jehoiacim.
20
Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw. Ond yna dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
Recommended Reading
Commentary
2 Kings Commentaries
→
Devotional
2 Kings Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→