bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
2 Kings 9
2 Kings 9
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 10 →
1
Dyma Eliseus, y proffwyd, yn galw un o aelodau'r urdd o broffwydi, a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y botel yma o olew olewydd, a dos i Ramoth-gilead.
2
Wedi i ti gyrraedd yno, edrych am Jehw (mab Jehosaffat ac ŵyr i Nimshi). Dos ag e o ganol ei ffrindiau, i ystafell ar wahân.
3
Yna cymer y botel a tywallt yr olew ar ei ben a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.’ Wedyn agor y drws a rheda i ffwrdd heb oedi.”
4
Dyma'r proffwyd ifanc yn mynd i Ramoth-gilead.
5
Pan gyrhaeddodd e, dyna lle roedd swyddogion y fyddin yn cyfarfod â'i gilydd. “Capten, mae gen i neges i ti,” meddai. A dyma Jehw yn gofyn, “I ba un ohonon ni?” “I ti, syr,” meddai'r proffwyd.
6
Felly dyma Jehw yn codi a mynd i mewn i'r tŷ. Yna dyma'r proffwyd yn tywallt yr olew ar ei ben a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.
7
Rwyt i ddinistrio teulu Ahab. Dyna sut bydda i'n dial ar Jesebel am ladd fy ngweision y proffwydi, a pawb arall oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD.
8
Dw i'n mynd i roi diwedd ar linach Ahab. Bydda i'n cael gwared â phob dyn a bachgen yn Israel, sy'n perthyn i Ahab, y caeth a'r rhydd.
9
“‘Bydda i'n gwneud yr un peth i linach Ahab ag a wnes i i Jeroboam fab Nebat a Baasha fab Achïa.
10
Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel. Fydd hi ddim yn cael ei chladdu.’” Yna dyma'r proffwyd yn agor y drws a rhedeg i ffwrdd.
11
Pan aeth Jehw allan at swyddogion eraill ei feistr, dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy popeth yn iawn? Pam wnaeth yr idiot yna ddod i dy weld di?” A dyma fe'n ateb, “O, dych chi'n gwybod am y math yna o foi a'i rwdlan.”
12
“Ti a dy gelwyddau!” medden nhw, “Dywed wrthon ni beth ddwedodd e.” Felly dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dyma beth ddwedodd e, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i'n dy eneinio di yn frenin ar Israel.”’”
13
Heb oedi dim, dyma pob un ohonyn nhw yn gafael yn ei glogyn a'i roi dan draed Jehw ar ben y grisiau. Wedyn dyma'r corn hwrdd yn cael ei ganu, a pawb yn gweiddi, “Jehw ydy'r brenin!”
14
Felly dyma Jehw yn cynllwyn yn erbyn Joram. (Roedd Joram wedi bod gyda byddin Israel yn Ramoth-gilead, yn amddiffyn y wlad rhag Hasael, brenin Syria.
15
Ond roedd e wedi cael ei anafu, ac wedi mynd yn ôl i Jesreel i wella o'i glwyfau.) A dyma Jehw yn dweud wrth ei ddilynwyr, “Os ydych chi wir ar fy ochr i, peidiwch gadael i neb ddianc o'r ddinas i'w rhybuddio nhw yn Jesreel.”
16
Yna dyma Jehw yn mynd yn ei gerbyd i Jesreel, lle roedd Joram yn gorwedd yn wael. (Dyna hefyd pryd roedd Ahaseia, brenin Jwda, wedi mynd i ymweld â Joram.)
17
Roedd gwyliwr ar ddyletswydd ar dŵr tref Jesreel. A dyma fe'n gweld Jehw a'i filwyr yn dod. Dyma fe'n gweiddi, “Dw i'n gweld milwyr yn dod!” Dyma Joram yn gorchymyn, “Anfonwch farchog allan i'w cyfarfod i ofyn ydyn nhw'n dod yn heddychlon.”
18
Felly dyma'r marchog yn mynd i'w cyfarfod, a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” Dyma Jehw yn ateb, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.” A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl.”
19
Felly dyma Joram yn anfon ail farchog. Aeth hwnnw atyn nhw a gofyn, “Mae'r brenin yn gofyn, ‘Ydych chi'n dod yn heddychlon?’” A dyma Jehw yn ateb eto, “Dim o dy fusnes di! Dilyn di fi.”
20
A dyma'r gwyliwr yn Jesreel yn dweud eto, “Aeth y marchog atyn nhw, ond dydy e ddim yn dod yn ôl. Mae pwy bynnag sy'n y cerbyd ar y blaen yn gyrru'n hurt; mae'n gyrru fel Jehw fab Nimshi!”
21
Yna dyma Joram yn dweud, “Gwnewch y cerbyd yn barod i mi.” Pan oedden nhw wedi gwneud hynny, dyma Joram, brenin Israel, ac Ahaseia, brenin Jwda, yn mynd allan yn eu cerbydau eu hunain i gyfarfod Jehw. Dyma nhw'n cwrdd ar y darn o dir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel.
22
A dyma Joram yn gofyn i Jehw, “Ydy popeth yn iawn, Jehw?” Ond dyma Jehw yn ateb, “Fydd pethau byth yn iawn tra mae dy fam di, Jesebel, yn gwthio pobl i addoli eilunod a dewino!”
23
Yna dyma Joram yn troi ei gerbyd i geisio dianc, ac yn gweiddi ar Ahaseia, “Mae'n frad, Ahaseia!”
24
Ond dyma Jehw yn anelu ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau. Aeth y saeth drwy ei galon, a syrthiodd yn farw yn ei gerbyd.
25
Wedyn dyma Jehw yn dweud wrth Bidcar, ei is-gapten, “Cymer y corff a'i daflu ar y darn tir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. Wyt ti'n cofio? Pan oedd y ddau ohonon ni'n gwasanaethu Ahab ei dad, roedd yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn yn ei erbyn:
26
‘Yn wir dw i wedi gweld gwaed Naboth a'i feibion, ddoe,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘A bydda i'n talu'n ôl i ti ar yr union ddarn yma o dir.’ Felly cymer y corff a'i daflu ar y darn tir yna fel dwedodd yr ARGLWYDD.”
27
Pan welodd Ahaseia, brenin Jwda, beth ddigwyddodd, dyma fe'n ffoi i gyfeiriad Beth-haggan. A dyma Jehw yn mynd ar ei ôl a gorchymyn i'w filwyr, “Saethwch e hefyd!” A dyma nhw'n ei saethu yn ei gerbyd ar yr allt sy'n mynd i fyny i Gwr, wrth ymyl Ibleam. Ond llwyddodd i ddianc i Megido, a dyna lle buodd e farw.
28
Aeth ei weision a'r corff yn ôl i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei fedd gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd.
29
Roedd Joram wedi bod yn frenin Israel am un deg un o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia ei wneud yn frenin ar Jwda.
30
Dyma Jehw yn mynd i Jesreel. Pan glywodd Jesebel ei fod yn dod dyma hi'n rhoi colur ar ei llygaid, gwneud ei gwallt a pwyso allan o'r ffenest.
31
Pan gyrhaeddodd Jehw wrth giât y dref, dyma hi'n galw arno, “Wyt ti'n dod yn heddychlon? Ti ddim gwell na Simri, wnaeth lofruddio ei feistr!”
32
Dyma Jehw yn edrych i fyny a gofyn, “Pwy sydd ar fy ochr i? Rhywun?” A dyma ddau neu dri o swyddogion y palas yn edrych i lawr arno.
33
“Taflwch hi allan o'r ffenest,” meddai Jehw. A dyma nhw'n ei thaflu hi i lawr. Pan darodd hi'r llawr dyma'i gwaed yn sblasio ar y wal ac ar y ceffylau, a dyma Jehw yn gyrru ei gerbyd drosti.
34
Aeth i mewn a cael pryd o fwyd. Yna dyma Jehw yn dweud, “Ewch i gladdu corff y ddynes ddiawledig yna. Roedd hi yn ferch i frenin, wedi'r cwbl.”
35
Ond pan aethon nhw i'w chladdu hi, doedd dim byd ar ôl ond ei phenglog, ei thraed a'i dwylo.
36
Dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Jehw, a dyma fe'n ateb, “Dyna'n union beth ddwedodd yr ARGLWYDD fyddai'n digwydd. Y proffwyd Elias o Tishbe ddwedodd, ‘Bydd cŵn yn bwyta corff Jesebel yn ardal Jesreel.
37
A bydd darnau o'i chorff fel tail ar wyneb y tir yn Jesreel. Fydd neb yn gallu ei nabod.’”
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
Recommended Reading
Commentary
2 Kings Commentaries
→
Devotional
2 Kings Devotional Guide
→
Get This Bible
BNET Study Bible
→