bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Acts 25
Acts 25
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
1
Dridiau ar ôl iddo gyrraedd y dalaith, aeth Ffestus i Jerwsalem.
2
A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig yn mynd ato, i ddweud wrtho beth oedd y cyhuddiadau oedd ganddyn nhw yn erbyn Paul.
3
Dyma nhw'n gofyn iddo anfon Paul yn ôl i Jerwsalem fel ffafr iddyn nhw. (Eu bwriad oedd ymosod arno a'i ladd pan oedd ar ei ffordd).
4
Ond dyma Ffestus yn ateb: “Mae Paul yn y ddalfa yn Cesarea, a dw i'n mynd yn ôl yno'n fuan.
5
Caiff rhai o'ch arweinwyr chi fynd gyda mi a'i gyhuddo yno, os ydy e wedi gwneud rhywbeth o'i le.”
6
Buodd Ffestus yn Jerwsalem am ryw wyth i ddeg diwrnod, yna aeth yn ôl i Cesarea. Yna'r diwrnod wedyn cafodd Paul ei alw o flaen y llys.
7
Yn y llys dyma'r Iddewon o Jerwsalem yn casglu o'i gwmpas, a dwyn nifer o gyhuddiadau difrifol yn ei erbyn, er bod dim modd profi dim un ohonyn nhw.
8
Wedyn dyma Paul yn cyflwyno ei amddiffyniad: “Dw i ddim wedi torri'r Gyfraith Iddewig na gwneud dim yn erbyn y Deml yn Jerwsalem na'r llywodraeth Rufeinig chwaith.”
9
Ond gan fod Ffestus yn awyddus i wneud ffafr i'r Iddewon, gofynnodd i Paul, “Wyt ti'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll dy brawf o'm blaen i yno?”
10
Atebodd Paul: “Dw i yma'n sefyll o flaen llys Cesar, a dyna lle dylid gwrando'r achos. Dych chi'n gwybod yn iawn fy mod i heb wneud dim yn erbyn yr Iddewon.
11
Os ydw i wedi gwneud rhywbeth sy'n haeddu'r gosb eithaf, dw i'n fodlon marw. Ond, os nad ydy'r cyhuddiadau yma'n wir, does gan neb hawl i'm rhoi fi yn eu dwylo nhw. Felly dw i'n cyflwyno apêl i Gesar!”
12
Ar ôl i Ffestus drafod y mater gyda'i gynghorwyr, dyma fe'n ateb: “Rwyt ti wedi cyflwyno apêl i Gesar. Cei dy anfon at Cesar!”
13
Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gyda'i chwaer Bernice, i ddymuno'n dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr.
14
Buon nhw yno am rai dyddiau, a buodd Ffestus yn trafod achos Paul gyda'r brenin. “Mae yma ddyn sydd wedi ei adael gan Ffelics yn garcharor,” meddai.
15
“Y prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill ddwedodd wrtho i amdano pan o'n i yn Jerwsalem, a gofyn i mi ei ddedfrydu.
16
“Esboniais bod cyfraith Rhufain ddim yn dedfrydu unrhyw un heb achos teg, a chyfle i'r person sy'n cael ei gyhuddo amddiffyn ei hun.
17
Felly pan ddaethon nhw yma dyma fi'n trefnu i'r llys eistedd y diwrnod wedyn, a gwrando'r achos yn erbyn y dyn.
18
Pan gododd yr erlyniad i gyflwyno'r achos yn ei erbyn, wnaethon nhw mo'i gyhuddo o unrhyw drosedd roeddwn i'n ei disgwyl.
19
Yn lle hynny roedd y ddadl i gyd am ryw fanion yn eu crefydd nhw, ac am ryw ddyn o'r enw Iesu oedd wedi marw — ond roedd Paul yn mynnu ei fod yn fyw.
20
Doedd gen i ddim syniad sut i farnu ar faterion o'r fath; felly gofynnais iddo a fyddai'n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll ei brawf yno.
21
Ond dyma Paul yn gwneud apêl i'r achos gael ei ohirio a'i drosglwyddo i uchel-lys o flaen ei fawrhydi yr Ymerawdwr. Felly dw i wedi gorchymyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa nes daw cyfle i'w anfon at Cesar.”
22
Dyma Agripa'n dweud wrth Ffestus, “Baswn i'n hoffi clywed y dyn yma fy hun.” A dyma Ffestus yn ateb, “Iawn! Cei di ei glywed fory!”
23
Felly, y diwrnod wedyn dyma'r Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad i'w gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda penaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn.
24
Yna meddai Ffestus, “Y Brenin Agripa, a phawb arall sydd yma heddiw. Mae'r Iddewon yma ac yn Jerwsalem wedi gwneud cais am y dyn yma — maen nhw wedi gwneud twrw ofnadwy fod rhaid iddo farw.
25
Dw i ddim yn credu ei fod wedi gwneud dim i haeddu cael ei ddienyddio, ond gan ei fod wedi gwneud apêl i'r Ymerawdwr dw i'n bwriadu ei anfon i Rufain.
26
Ond does gen i ddim byd pendant i'w ddweud wrth ei fawrhydi amdano. Felly dw i wedi ei alw o'ch blaen chi i gyd, ac yn arbennig o'ch blaen chi, frenin Agripa. Dw i'n gobeithio y bydd gen i rywbeth i'w ysgrifennu amdano ar ôl yr ymholiad swyddogol yma.
27
Mae'n gwbl afresymol i mi ei anfon ymlaen heb ddweud yn glir beth ydy'r cyhuddiadau yn ei erbyn!”
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28