bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Acts 6
Acts 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
1
Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw'n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd.
2
Felly dyma'r Deuddeg yn galw'r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy'n gwaith ni, dim trefnu'r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw.
3
“Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o'ch plith — dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o'r Ysbryd Glân — dynion sy'n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni'n mynd i roi'r cyfrifoldeb yma iddyn nhw.
4
Wedyn byddwn ni'n gallu rhoi'n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.”
5
Roedd y syniad yma'n plesio pawb, a dyma nhw'n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu'n gryf ac yn llawn o'r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia).
6
Dyma nhw'n eu cyflwyno i'r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma'r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw.
7
Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.
8
Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl oedd yn dangos fod Duw gydag e.
9
Ond dyma rhai o aelodau'r synagog oedd yn cael ei galw'n ‛Synagog y Dynion Rhydd‛ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw'n dechrau dadlau gyda Steffan,
10
ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad trwyddo.
11
Felly dyma nhw'n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.”
12
Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw'n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin.
13
Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae'r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses.
14
Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”
15
Dyma pob un o aelodau'r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28