bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ecclesiastes 11
Ecclesiastes 11
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 12 →
1
“Bydd yn hael a rhannu dy gynnyrch — ac ymhen amser fe gei dy dalu'n ôl.
2
Rho beth ohono i nifer o wahanol bobl, wyddost ti ddim beth all fynd o'i le yn dy fywyd.”
3
Pan mae'r cymylau'n dduon, byddan nhw'n tywallt glaw ar y ddaear. Sdim ots i ba gyfeiriad mae coeden yn syrthio, bydd yn aros lle syrthiodd.
4
Fydd ffermwr sy'n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a'r un sy'n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.
5
Yn union fel na elli wybod sut mae anadl bywyd yn mynd i gorff plentyn yng nghroth ei fam, alli di ddim rhagweld beth fydd Duw'n ei wneud, a fe sydd wedi creu popeth.
6
Hau dy had yn y bore, a phaid segura gyda'r nos; wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo — y naill neu'r llall, neu'r ddau fel ei gilydd.
7
“Mae golau bywyd mor felys, ac mae'n hyfryd cael gweld yr haul!”
8
Os ydy rhywun yn cael oes hir, dylai fwynhau'r blynyddoedd i gyd, ond rhaid cofio fod dyddiau tywyll marwolaeth yn hirach. Mae popeth sydd i ddod yn ddirgelwch!
9
Ti'n ifanc! Mwynha dy hun tra mae gen ti gyfle! Cei ddigon o hwyl a sbri pan wyt ti'n ifanc. Gwna be fynni di, beth bynnag sy'n cymryd dy ffansi — ond cofia y bydd Duw yn dy alw i gyfrif am y cwbl.
10
Paid cael dy lethu gan boenau bywyd, a chadwa dy hun yn iach! Dydy ieuenctid a gwallt du ddim yn para'n hir!
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12