bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ecclesiastes 12
Ecclesiastes 12
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
1
Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd a'r blynyddoedd ddod pan fyddi'n dweud, “Dw i'n cael dim pleser ynddyn nhw.”
2
Cyn i'r haul a golau'r lleuad a'r sêr droi'n dywyll, a'r cymylau'n dod yn ôl eto ar ôl y glaw:
3
Pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu, a dynion cryfion yn crymu; y rhai sy'n malu'r grawn yn y felin yn mynd yn brin, a'r rhai sy'n edrych drwy'r ffenestri yn colli eu golwg.
4
Pan mae'r drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn malu wedi tawelu; pan mae rhywun yn cael ei ddeffro'n gynnar gan gân aderyn er fod holl seiniau byd natur yn distewi.
5
Pan mae gan rywun ofn uchder ac ofn mynd allan ar y stryd. Pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn, y ceiliog rhedyn yn llusgo symud, a chwant rhywiol wedi hen fynd. Pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol, a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
6
Cyn i'r llinyn arian dorri ac i'r fowlen aur falu, a'r llestr wrth y ffynnon yn deilchion, a'r olwyn i'w godi wedi torri wrth y pydew.
7
Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd, ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw, yr un a'i rhoddodd.
8
Mae'n ddiystyr! — meddai'r Athro — dydy'r cwbl yn gwneud dim sens!
9
Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn.
10
Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen.
11
Mae dywediadau'r doeth yn procio'r meddwl; maen nhw'n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi'r casgliad i gyd i ni.
12
Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben.
13
I grynhoi, y cwbl sydd i'w ddweud yn y diwedd ydy hyn: Addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud.
14
Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw — hyd yn oed beth oedd o'r golwg — y da a'r drwg.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12