bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Esther 5
Esther 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 6 →
1
Ar y trydydd diwrnod o'i hympryd, dyma Esther yn gwisgo ei dillad brenhinol, a mynd i gyntedd mewnol y palas tu allan i neuadd y brenin. Roedd y brenin yno, yn eistedd ar ei orsedd gyferbyn â'r drws.
2
Pan welodd fod y Frenhines Esther yn sefyll yn y cyntedd tu allan, roedd e wrth ei fodd. Dyma fe'n estyn y deyrnwialen aur oedd yn ei law at Esther, a dyma hithau yn mynd ato ac yn cyffwrdd blaen y deyrnwialen.
3
A dyma'r brenin yn gofyn iddi, “Y Frenhines Esther, beth alla i wneud i ti i? Beth wyt ti eisiau? Dw i'n fodlon rhoi hyd at hanner y deyrnas i ti!”
4
Dyma Esther yn ateb, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, byddwn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod heddiw i wledd dw i wedi ei pharatoi.”
5
A dyma'r brenin yn gorchymyn, “Ewch i nôl Haman ar unwaith, i ni wneud beth mae Esther yn ei ofyn.” Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i'r wledd roedd Esther wedi ei pharatoi.
6
Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Gofyn am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Be fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”
7
A dyma Esther yn ateb, “Dyma beth faswn i'n hoffi:
8
Os ydw i wedi plesio'r brenin a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, baswn i'n hoffi iddo fe a Haman ddod eto fory i wledd arall dw i wedi ei pharatoi. Gwna i ddweud wrth y brenin beth dw i eisiau bryd hynny.”
9
Aeth Haman i ffwrdd y diwrnod hwnnw yn teimlo'n rêl boi. Ond yna dyma fe'n gweld Mordecai yn y llys brenhinol yn gwrthod codi iddo na dangos parch ato. Roedd Haman wedi gwylltio'n lân. Roedd e'n berwi!
10
Ond dyma fe'n llwyddo i reoli ei dymer, ac aeth yn ei flaen adre. Ar ôl cyrraedd adre dyma fe'n galw ei ffrindiau at ei gilydd, a'i wraig Seresh.
11
A dyma fe'n dechrau brolio am ei gyfoeth mawr, y nifer o feibion oedd ganddo, a'r ffaith fod y brenin wedi ei anrhydeddu e a'i osod e'n uwch na'r swyddogion eraill i gyd.
12
Ac aeth ymlaen i ddweud, “A ces wahoddiad gan y Frenhines Esther i fynd gyda'r brenin i'r wledd roedd hi wedi ei pharatoi. Fi oedd yr unig un! A dw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl gyda'r brenin eto fory.
13
Ond fydda i byth yn hapus tra mae Mordecai yr Iddew yna yn dal yn ei swydd.”
14
Yna dyma'i wraig a'i ffrindiau i gyd yn dweud wrtho, “Adeilada grocbren anferth, dau ddeg pum metr o uchder. Yna bore fory, dos i ddweud wrth y brenin am grogi Mordecai arno. Wedyn cei fynd i'r cinio gyda'r brenin, a mwynhau dy hun.” Roedd Haman yn meddwl fod hynny'n syniad gwych. A dyma fe'n trefnu i'r crocbren gael ei adeiladu.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10