bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Esther 7
Esther 7
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 8 →
1
Felly dyma'r brenin a Haman yn mynd i wledda gyda'r Frenhines Esther
2
am yr ail waith. Tra'n yfed gwin yn y wledd, dyma'r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe'i cei. Beth fyddet ti'n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint a hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”
3
A dyma Esther yn ateb, “Os ydw i wedi plesio'r brenin, a'i fod yn gweld yn dda i roi i mi beth dw i eisiau, arbed fy mywyd i a'm pobl. Dyna dw i eisiau.
4
Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a'n dinistrio'n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu'n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni'r brenin amdano.”
5
A dyma'r Brenin Ahasferus yn gofyn i Esther, “Pwy sydd wedi gwneud hyn? Pwy fyddai'n meiddio gwneud y fath beth?”
6
A dyma Esther yn ateb, “Dyn drwg ydy e sy'n ein casáu ni! Dyma fe — Haman!” Roedd Haman wedi dychryn am ei fywyd o flaen y brenin a'r frenhines.
7
Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân, a dyma fe'n codi o'r bwrdd a mynd allan i ardd y palas. Yna dyma Haman yn dechrau pledio ar y Frenhines Esther i arbed ei fywyd. Roedd yn gwybod y byddai'r brenin yn trefnu i'w ladd yn y ffordd fwya creulon.
8
Pan ddaeth y brenin yn ôl i mewn o'r ardd, roedd Haman yn taflu ei hun ar y soffa roedd Esther yn gorwedd arni. A dyma'r brenin yn gweiddi, “Ydy e am dreisio'r frenhines hefyd, a minnau'n dal yn yr adeilad!” Wrth i'r brenin ddweud hyn, dyma'i weision yn rhoi mwgwd dros ben Haman.
9
A dyma Harbona, un o'r gweision, yn dweud, “Mae Haman wedi adeiladu crocbren i grogi Mordecai, y dyn oedd wedi achub bywyd y brenin. Mae'r crocbren heb fod yn bell o'i dŷ, ac yn ddau ddeg pum metr o uchder.” A dyma'r brenin yn dweud, “Crogwch Haman arno!”
10
Felly cafodd Haman ei grogi ar y crocbren oedd wedi ei fwriadu i Mordecai. Dyma dymer y brenin yn tawelu wedyn.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10