bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezra 2
Ezra 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 3 →
1
Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.
2
Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Seraia, Reëlaia, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Rechwm a Baana. Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
3
Teulu Parosh: 2,172
4
Teulu Sheffateia: 372
5
Teulu Arach: 775
6
Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,812
7
Teulu Elam: 1,254
8
Teulu Sattw: 945
9
Teulu Saccai: 760
10
Teulu Bani: 642
11
Teulu Bebai: 623
12
Teulu Asgad: 1,222
13
Teulu Adonicam: 666
14
Teulu Bigfai: 2,056
15
Teulu Adin: 454
16
Teulu Ater (sef disgynyddion Heseceia): 98
17
Teulu Betsai: 323
18
Teulu Iora: 112
19
Teulu Chashŵm: 223
20
Teulu Gibbar: 95
21
Dynion Bethlehem: 123
22
Dynion Netoffa: 56
23
Dynion Anathoth: 128
24
Dynion Asmafeth: 42
25
Dynion Ciriath-iearim, Ceffira a Beëroth: 743
26
Dynion Rama a Geba: 621
27
Dynion Michmas: 122
28
Dynion Bethel ac Ai: 223
29
Pobl Nebo: 52
30
Pobl Magbish: 156
31
Pobl yr Elam arall: 1,254
32
Pobl Charîm: 320
33
Pobl Lod, Hadid ac Ono: 725
34
Pobl Jericho: 345
35
Pobl Sena'a: 3,630
36
Yr offeiriaid: Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
37
Teulu Immer: 1,052
38
Teulu Pashchwr: 1,247
39
Teulu Charîm: 1,017
40
Y Lefiaid: Teulu Ieshŵa a Cadmiel (o deulu Hodafia): 74
41
Y cantorion: Teulu Asaff: 128
42
Gofalwyr y giatiau: Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 139
43
Gweision y deml: Teulu Sicha Teulu Chaswffa Teulu Tabbaoth
44
Teulu Ceros Teulu Sïaha Teulu Padon
45
Teulu Lebana Teulu Hagaba Teulu Accwf
46
Teulu Hagab Teulu Shalmai Teulu Chanan
47
Teulu Gidel Teulu Gachar Teulu Reaia
48
Teulu Resin Teulu Necoda Teulu Gassam
49
Teulu Wssa Teulu Paseach Teulu Besai
50
Teulu Asna Teulu Mewnim Teulu Neffwsîm
51
Teulu Bacbwc Teulu Chacwffa Teulu Charchwr
52
Teulu Batslwth Teulu Mechida Teulu Charsha
53
Teulu Barcos Teulu Sisera Teulu Temach
54
Teulu Netsïach Teulu Chatiffa.
55
Teuluoedd gweision Solomon: Teulu Sotai Teulu Hassoffereth Teulu Perwda
56
Teulu Jala Teulu Darcon Teulu Gidel
57
Teulu Sheffateia Teulu Chattil Teulu Pochereth-hatsbaîm Teulu Ami
58
Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.
59
Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer hefyd (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
60
Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652
61
Wedyn teuluoedd yr offeiriaid, sef teuluoedd Chafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).
62
Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau ac wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.
63
Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi ei gysegru nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.
64
Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,
65
(heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw. Roedd yna 200 o gantorion — dynion a merched — gyda nhw hefyd).
66
Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod,
67
435 o gamelod a 6,720 o asynnod.
68
Pan gyrhaeddon nhw deml yr ARGLWYDD yn Jerwsalem, dyma rhai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu'n hael tuag at ailadeiladu teml Dduw ar ei safle wreiddiol.
69
Rhoddodd pob un gymaint ag y gallen nhw ei fforddio tuag at y gwaith: tua 500 cilogram o aur, 2,800 cilogram arian, a 100 o wisgoedd i'r offeiriaid.
70
Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10