bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Ezra 5
Ezra 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 6 →
1
Yna dyma'r proffwydi Haggai a Sechareia fab Ido yn proffwydo am yr Iddewon oedd yn Jwda a Jerwsalem. Roedden nhw'n siarad gydag awdurdod Duw Israel.
2
A dyma Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac yn dechrau eto ar y gwaith o ailadeiladu teml Dduw yn Jerwsalem. Roedd proffwydi Duw yn eu hannog nhw a'u helpu nhw.
3
Ond wedyn dyma Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates) a Shethar-bosnai a'i cydweithwyr yn mynd atyn nhw, a gofyn, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?”
4
A dyma nhw'n gofyn hefyd, “Beth ydy enwau'r dynion sy'n gwneud yr adeiladu?”
5
Ond roedd Duw yn gofalu amdanyn nhw, a doedd dim rhaid iddyn nhw stopio nes oedd adroddiad wedi ei anfon at Dareius, a llythyr am y peth wedi ei anfon yn ôl.
6
Dyma gopi o'r llythyr wnaeth Tatnai (llywodraethwr talaith Traws-Ewffrates), Shethar-bosnai a swyddogion yn y dalaith, ei anfon at y brenin Dareius.
7
Roedd yn darllen fel yma: At y Brenin Dareius: Cyfarchion!
8
Dylai'r brenin wybod ein bod ni wedi mynd i dalaith Jwda. Yno mae teml y Duw mawr yn cael ei hadeiladu gyda cherrig anferth, ac mae trawstiau pren yn cael eu gosod yn y waliau. Maen nhw wrthi'n brysur yn gwneud y gwaith, ac mae'n mynd yn ei flaen yn dda.
9
Dyma ni'n gofyn i'r arweinwyr, “Pwy sydd wedi rhoi caniatâd i chi ailadeiladu'r deml yma, a gorffen codi'r waliau?”
10
A dyma ni'n gofyn beth oedd eu henwau nhw, er mwyn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen pwy ydy'r arweinwyr.
11
A dyma'r ateb gawson ni, “Gweision Duw y nefoedd a'r ddaear ydyn ni. Dŷn ni'n ailadeiladu'r deml yma gafodd ei chodi ganrifoedd yn ôl gan un o frenhinoedd mwyaf Israel.
12
Ond ar ôl i'n hynafiaid ni ddigio Duw y nefoedd, dyma fe'n gadael i Nebwchadnesar, brenin Babilon, eu concro nhw. Dinistriodd y deml a chymryd y bobl yn gaethion i Babilon.
13
Ond yna, yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel brenin, dyma Cyrus brenin Babilon yn gorchymyn fod teml Dduw i gael ei hadeiladu eto.
14
Dyma fe hyd yn oed yn rhoi llestri aur ac arian y deml yn ôl (y rhai oedd Nebwchadnesar wedi eu cymryd o Jerwsalem i'w balas yn Babilon). Rhoddodd Cyrus nhw i ddyn o'r enw Sheshbatsar, oedd wedi ei benodi yn llywodraethwr ar Jwda,
15
a dweud wrtho, ‘Dos â'r llestri yma yn ôl i'w gosod yn y deml yn Jerwsalem. Mae teml Dduw i gael ei hadeiladu eto ar y safle cywir.’
16
Felly dyma Sheshbatsar yn mynd ati i osod sylfaeni teml Dduw yn Jerwsalem, ac mae'r gwaith adeiladu yn dal i fynd yn ei flaen, ac yn dal heb ei orffen.
17
Felly os ydy'r brenin yn hapus i wneud hynny, gallai orchymyn chwilio drwy'r archifau brenhinol yn Babilon, i weld os gwnaeth y brenin Cyrus orchymyn ailadeiladu'r deml yn Jerwsalem ai peidio. Wedyn falle y gallai'r brenin anfon i ddweud wrthon ni beth mae e eisiau i ni ei wneud.”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10