bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hebrews 3
Hebrews 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
Felly, frodyr a chwiorydd — chi sydd wedi'ch glanhau ac ar eich ffordd i'r nefoedd — meddyliwch am Iesu! Fe ydy'r negesydd oddi wrth Dduw a'r un dŷn ni'n ei dderbyn yn Archoffeiriad.
2
Gwnaeth Iesu bopeth roedd Duw yn gofyn iddo'i wneud, yn union fel Moses, oedd “yn ffyddlon yn nheulu Duw.”
3
Ond mae Iesu'n haeddu ei anrhydeddu fwy na Moses, yn union fel mae rhywun sy'n adeiladu tŷ yn haeddu ei ganmol fwy na'r tŷ ei hun!
4
Mae pob tŷ wedi cael ei adeiladu gan rywun, ond yr un sydd wedi adeiladu popeth sy'n bod ydy Duw!
5
Gwas “ffyddlon yn nheulu Duw” oedd Moses, ac roedd beth wnaeth e yn pwyntio ymlaen at beth fyddai Duw'n ei wneud yn y dyfodol.
6
Ond mae'r Meseia yn Fab ffyddlon gydag awdurdod dros deulu Duw i gyd. A dŷn ni'n bobl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw os wnawn ni ddal gafael yn yr hyder a'r gobaith dŷn ni'n ei frolio.
7
Felly, fel mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw,
8
peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel, yn rhoi Duw ar brawf yn yr anialwch.
9
Roedd eich hynafiaid wedi profi fy amynedd a chawson nhw weld y canlyniadau am bedwar deg mlynedd.
10
Digiais gyda'r bobl hynny, a dweud, ‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal; dŷn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
11
Felly digiais, a dweud ar lw, ‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi.’”
12
Felly, frodyr a chwiorydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw.
13
Helpwch eich gilydd bob dydd, a gwnewch hynny tra mae hi'n ‛heddiw‛. Peidiwch gadael i bechod eich twyllo a'ch gwneud yn ystyfnig.
14
Os daliwn ein gafael i'r diwedd a dal i gredu fel ar y dechrau, cawn rannu'r cwbl sydd gan y Meseia.
15
Fel dw i newydd ddweud: “Os clywch chi lais Duw heddiw, peidiwch bod yn ystyfnig fel oeddech chi adeg y gwrthryfel.”
16
A pwy oedd y rhai wnaeth wrthryfela er eu bod wedi clywed llais Duw? Onid y bobl wnaeth Moses eu harwain allan o'r Aifft?
17
A gyda pwy roedd Duw'n ddig am 40 mlynedd? Onid gyda'r rhai oedd wedi pechu? — nhw syrthiodd yn farw yn yr anialwch!
18
Ac am bwy ddwedodd Duw ar lw na chaen nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gydag e? — onid y bobl hynny oedd yn gwrthod ei ddilyn?
19
Felly dŷn ni'n gweld eu bod nhw wedi methu cyrraedd yno am eu bod nhw ddim yn credu.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13