bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Hebrews 6
Hebrews 6
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
Felly mae angen i ni symud ymlaen o beth sy'n cael ei ddysgu am y Meseia yn y grŵp meithrin. Mae'n hen bryd i ni dyfu i fyny! Does dim rhaid mynd dros y pethau sylfaenol eto — yr angen i droi cefn ar y math o fywyd sy'n arwain i farwolaeth a dod i gredu yn Nuw;
2
y ddysgeidiaeth am fedydd; comisiynu pobl drwy osod dwylo arnyn nhw; y ffaith y bydd y rhai sydd wedi marw yn codi yn ôl yn fyw ac y bydd Duw yn barnu beth fydd yn digwydd i bobl yn dragwyddol.
3
A gyda help Duw dyna wnawn ni — symud yn ein blaenau!
4
Mae'n gwbl amhosib arwain y rhai sydd wedi troi cefn ar y Meseia yn ôl ato. Dyma'r bobl welodd oleuni'r gwirionedd unwaith. Cawson nhw brofi rhodd hael Duw, a derbyn yr Ysbryd Glân gydag eraill.
5
Cawson nhw flas ar neges Duw a nerthoedd yr oes sydd i ddod.
6
Ac eto maen nhw wedi troi cefn arno! Maen nhw'n gyfrifol am hoelio Mab Duw ar y groes unwaith eto drwy ei wrthod, a'i wneud yn destun sbort i bobl.
7
Mae Duw yn bendithio'r ddaear drwy anfon glaw i'w mwydo'n gyson, ac mae'r tir yn rhoi cnwd da i'w ddefnyddio gan y ffermwr sy'n trin y tir.
8
Ond dydy tir gyda dim byd ond drain ac ysgall yn tyfu arno yn dda i ddim. Bydd yn cael ei gondemnio a'i losgi yn y diwedd.
9
Ond er ein bod ni'n siarad fel hyn, ffrindiau annwyl, dŷn ni'n hyderus fod pethau gwell o'ch blaen chi — bendithion sy'n dod i'r rhai sy'n cael eu hachub.
10
Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi ei wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi'n dal i wneud hynny!
11
Daliwch ati i ddangos yr un brwdfrydedd, a byddwch chi'n derbyn yn llawn y cwbl dych chi'n edrych ymlaen ato.
12
Dŷn ni ddim am i chi fod yn ddiog! Dilynwch esiampl y rhai hynny sy'n credu go iawn ac yn dal ati yn amyneddgar — nhw ydy'r rhai fydd yn derbyn y cwbl mae Duw wedi ei addo.
13
Pan wnaeth Duw addewid i Abraham aeth ar ei lw y byddai'n gwneud beth oedd wedi ei addo. Rhoddodd ei gymeriad ei hun ar y lein! — doedd neb mwy iddo allu tyngu llw iddo!
14
A dyma ddwedodd e: “Dw i'n addo dy fendithio di a rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
15
Ac felly, ar ôl disgwyl yn amyneddgar dyma Abraham yn derbyn beth roedd Duw wedi ei addo iddo.
16
Pan mae pobl yn tyngu llw maen nhw'n gofyn i rywun mwy na nhw eu hunain wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maen nhw'n ei addo. Mae'r llw yn eu rhwymo nhw i wneud beth maen nhw wedi ei ddweud, ac yn rhoi diwedd ar bob dadl.
17
Am fod Duw am i bobl wybod ei fod e ddim yn newid ei feddwl ac y byddai'n gwneud beth roedd wedi ei addo iddyn nhw, rhwymodd ei hun gyda llw.
18
Felly mae Duw wedi addo, ac mae wedi mynd ar ei lw — dau beth fydd byth yn newid am ei bod yn amhosib i Dduw ddweud celwydd. Felly, dŷn ni sydd wedi dianc ato yn gallu bod yn hyderus. Dŷn ni'n gallu dal gafael yn y gobaith mae wedi ei roi i ni.
19
Mae'r gobaith hwn yn obaith sicr — mae fel angor i'n bywydau ni, yn gwbl ddiogel. Mae Iesu wedi mynd o'n blaenau ni, tu ôl i'r llen, i mewn i'r nefoedd, sef y cysegr mewnol lle mae Duw.
20
Ydy, mae Iesu wedi mynd i mewn yno ar ein rhan ni. Fe ydy'r un “sy'n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13