bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Joel 1
Joel 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
1
Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Joel fab Pethwel.
2
Gwrandwch ar hyn chi arweinwyr; a phawb arall sy'n byw yn y wlad, daliwch sylw! Ydych chi wedi gweld y fath beth? Oes rhywbeth fel yma wedi digwydd erioed o'r blaen?
3
Dwedwch wrth eich plant am y peth. Gwnewch yn siŵr y bydd eich plant yn dweud wrth eu plant nhw, a'r rheiny wedyn wrth y genhedlaeth nesaf.
4
Mae un haid o locustiaid ar ôl y llall wedi dinistrio'r cnydau i gyd! Beth bynnag oedd wedi ei adael ar ôl gan un haid roedd yr haid nesaf yn ei fwyta!
5
Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crïo! Chi yfwyr gwin, dechreuwch udo! Does dim ar ôl! Mae'r gwin melys wedi ei gymryd oddi arnoch.
6
Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar y wlad — gormod ohonyn nhw i'w cyfrif! Mae ganddyn nhw ddannedd fel llew neu lewes yn rhwygo'r ysglyfaeth.
7
Maen nhw wedi dinistrio'r coed gwinwydd, a does dim ar ôl o'r coed ffigys. Maen nhw wedi rhwygo'r rhisgl i ffwrdd, a gadael y canghennau'n wynion.
8
Wylwch, a nadu'n uchel, fel merch ifanc yn galaru mewn sachliain am fod y dyn roedd hi ar fin ei briodi wedi marw.
9
Does neb yn gallu mynd ag offrwm o rawn i'r deml nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD. Mae'r offeiriaid sydd i fod i wasanaethu'r ARGLWYDD yn galaru.
10
Mae'r caeau'n wag. Does dim byd yn tyfu ar y tir. Does dim cnydau ŷd na haidd, dim grawnwin i roi ei sudd, a dim olew o'r olewydd.
11
Mae'r ffermwyr wedi anobeithio, a'r rhai sy'n gofalu am y gwinllannoedd yn udo crïo. Does dim ŷd na haidd yn tyfu; mae'r cnydau i gyd wedi methu.
12
Mae'r gwinwydd wedi crino, ac mae'r coed olewydd wedi gwywo. Does dim pomgranadau, dim datys, a dim afalau. Mae'r coed ffrwythau i gyd wedi crino; Ac mae llawenydd y bobl wedi gwywo hefyd!
13
Chi'r offeiriaid, gwisgwch sachliain a dechrau galaru. Crïwch yn uchel, chi sy'n gwasanaethu wrth yr allor. Weision Duw, treuliwch y nos yn galaru mewn sachliain, am fod neb yn dod ag offrwm i'r deml. Does neb bellach yn dod ag offrwm o rawn nac offrwm o ddiod i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD.
14
Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn ymprydio; yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw. Dewch a'r arweinwyr a phawb arall at ei gilydd i deml yr ARGLWYDD eich Duw; dewch yno i weddïo ar yr ARGLWYDD.
15
O na! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn dod i'n dinistrio ni! Bydd yn ddiwrnod ofnadwy!
16
Does gynnon ni ddim bwyd o'n blaenau, a dim byd i ddathlu'n llawen yn nheml Dduw!
17
Mae'r hadau wedi sychu yn y ddaear. Mae'r stordai'n wag a'r ysguboriau'n syrthio. Does dim cnydau i'w rhoi ynddyn nhw!
18
Mae'r anifeiliaid yn brefu'n daer. Mae'r gwartheg yn crwydro mewn dryswch, am fod dim porfa iddyn nhw. Mae hyd yn oed y defaid a'r geifr yn dioddef.
19
ARGLWYDD, dw i'n galw arnat ti am help. Mae'r tir pori fel petai tân wedi ei losgi; a fflamau wedi difetha'r coed i gyd.
20
Mae'r anifeiliaid gwylltion yn brefu arnat ti am fod pob ffynnon a nant wedi sychu, a thir pori'r anialwch wedi ei losgi gan dân.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3