bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Joel 3
Joel 3
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
1
Bryd hynny, bydda i'n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto.
2
Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd i “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD” Yno bydda i'n eu barnu nhw am y ffordd maen nhw wedi trin fy mhobl arbennig i, Israel. Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman, rhannu y tir rois i iddyn nhw
3
a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion. Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain, a merch fach am win i'w yfed.
4
Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi!
5
Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi.
6
Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain.
7
Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi!
8
Bydda i'n rhoi eich meibion a'ch merched chi i bobl Jwda eu gwerthu nhw. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!
9
Cyhoedda wrth y cenhedloedd: Paratowch eich hunain i fynd i ryfel. Galwch eich milwyr gorau! Dewch yn eich blaen i ymosod!
10
Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau, a'ch crymanau tocio yn waywffyn. Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”
11
Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd. Dewch at eich gilydd yno! (“ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”)
12
Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd, i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD. Yno bydda i'n eistedd i lawr i farnu'r cenhedloedd i gyd.
13
Mae'r cynhaeaf yn barod i'w fedi gyda'r cryman! Mae'r gwinwasg yn llawn grawnwin sy'n barod i'w sathru! Bydd y cafnau yn gorlifo! Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.
14
Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!
15
Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu, a'r sêr wedi diflannu.
16
Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion; a'i lais yn taranu o Jerwsalem, nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu. Ond mae'r ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo, mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel.
17
Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw a'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig. Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig, a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.
18
Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd, a llaeth yn llifo o'r bryniau; fydd nentydd Jwda byth yn sychu. Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo allan o deml yr ARGLWYDD, i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia.
19
Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda, a lladd pobl ddiniwed yno, bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag ac Edom yn anialwch llwm.
20
Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser, ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall.
21
Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw? Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw. Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth!
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
All chapters:
1
2
3